Gwynedd yw un o'r cynefinoedd pwysicaf yn Ewrop
|
Fe fydd hen dwnnel rheilffordd ger Caernarfon cyn bo hir yn troi'n hafan ar gyfer anifeiliaid prin. Gwasanaeth Amgylcheddol a chynllun Trefi Taclus Cyngor Gwynedd fydd yn creu hafan ar gyfer ystlumod, gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf sy'n anifail prin. Dywedodd y cyngor eu bod wedi cael grant er mwyn cau'r twnnel ger Lôn Eifion sy'n rhan o rwydwaith seiclo Lôn Las Cymru. Mae'r anifeiliaid hyn yn byw mewn cynefinoedd coediog mewn ardaloedd gwledig, mewn ogofâu, hen chwareli a seleri. Dywedodd Mark Balaam, Uwch Warden Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd: "Y gobaith yw y bydd yr hen dwnnel yn lle delfrydol ar gyfer yr ystlum pedol lleiaf ac yn fan lle gall ystlumod gysgu dros y gaeaf." Fe fyddai'r cynllun o fudd i bobl leol, meddai, gan y byddai'n cadw'r hen dwnnel, rhan bwysig o hanes diwydiannol y cylch. 'Camddefnyddio' "Mi fydd hefyd yn helpu atal ymddygiad gwrthgymdeithasol gan fod y llecyn wedi ei gam-ddefnyddio yn y gorffennol." Bydd y grant yn golygu y bydd modd gwneud y twnnel yn ddiogel, ei gau ym mhob pen a gosod rhwyd fydd yn gadael ystlumod yn unig i mewn. "Mae'r twnnel mewn lleoliad da, wrth ymyl tir lle gall yr ystlumod fwydo ac rydan ni'n gobeithio bydd hyn yn helpu datblygu'r ecosystem." Gwynedd yw un o'r cynefinoedd pwysicaf yn Ewrop ar gyfer yr ystlum pedol lleiaf. Mae'r rhywogaeth yma wedi diflannu o rannau o Brydain oherwydd colli cynefinoedd. Ariannwyd y cynllun Trefi Taclus gan raglen gwelliannau amgylcheddol Llywodraeth y Cynulliad.
|