Roedd y gofeb yn cael ei dadorchuddio am 3pm
|
Mae cofeb newydd sy'n cyfeirio at 65 o ddynion o ddau bentref fu farw mewn rhyfeloedd wedi cael ei dadorchuddio ddydd Sadwrn. Hwn yw'r tro cyntaf i enwau rhai o'r dynion o'r Garnant a Glanaman yn Sir Gaerfyrddin gael eu cynnwys ar gofeb. Roedd pentrefwyr wedi codi £5,000 ar gyfer y gofeb ar dir Ysgol y Bedol. Roedd y seremoni brynhawn Sadwrn yn cynnwys gorymdaith wedi ei harwain gan Fand Cymreig y Lleng Brydeinig. Llywydd cangen Garnant Y Lleng Brydeinig, Nevin Anthony, ddaeth o hyd i enwau'r rhai fu farw wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog ers 1914. Yn y seremoni roedd cynrychiolwyr nifer o sefydliadau milwrol a chynghorau Sir Gaerfyrddin a Dyffryn Aman - yn ogystal a Chôr Meibion Dyffryn Aman. Dywedodd Mr Nevin fod ei ymchwil yn dangos pa mor rwydd yr oedd pobl yn anghofio manylion. "Hyd yn oed o ran yr Ail Ryfel Byd, fe ges i drafferth ddod o hyd i'r enwau i gyd." 'Fandaliaeth' Roedd y ffaith, meddai, fod mwy na 60 o ddau bentref bach wedi colli eu bywydau yn dangos "maint yr aberth". Dywedodd ysgrifennydd y gangen, Ena Harding, fod apêl y gofeb wedi cael ei lansio yn 2008. "Mae 'na gofeb heb enwau ym Mharc Golwg yr Aman gafodd ei darparu gan Gyngor Tref Cwmaman flynydde'n ôl," meddai. "Ond oherwydd fandaliaeth roedd y gost o roi'r gofeb newydd ar yr un safle - a sicrhau na fyddai'n cael ei fandaleiddio - yn ormod. "Yn garedig iawn, fe gynigiodd prifathro'r ysgol leol safle ar dir yr ysgol lle bydd y gofeb yn fwy saff."
|