British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Ebrill 2010, 18:44 GMT 19:44 UK
Llofruddiaeth: Eisiau gwybodaeth am gar arian

Aamir Siddiqi
Bu farw Aamir Siddiqi yn ei gartref

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth llanc ifanc o Gaerdydd yn apelio am wybodaeth am gar gafodd ei weld yn yr ardal ar y diwrnod y cafodd Aamir Siddiqi ei ladd.

Cafodd Aamir, oedd yn 17 oed, ei drywanu yn ei gartref yn ardal Y Rhath o'r ddinas pan agorodd y drws i ddau ddyn.

Mae'r heddlu yn awyddus i ganfod gwybodaeth am Volvo XC90 arian gafodd ei weld yn gyrru o gwmpas ardal Y Rhath a Cathays ar Ebrill 11.

Mae dau ddyn yn eu 30au wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth Aamir.

Fe ymddangosodd Ben Hope, 36 oed, a Jason Richards, 35 oed, y ddau o Gaerdydd, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher wedi eu cyhuddo o'i lofruddio ac o geisio llofruddio ei dad, Iqbal, 68 oed, a'i fam, Parveen, 55 oed.

Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa tan Ebrill 30.

Gwybodaeth

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y Volvo wedi cael ei ganfod yn ardal Adamstown o'r brifddinas oriau ar ôl i Aamir gael ei ladd.

Yn ôl yr heddlu cafodd y car ei ddwyn o ddinas Casnewydd 12 mis yn ôl.

Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth, lle mae'r car wedi bod, pwy sydd wedi bod yn ei yrru a lle mae o wedi cael ei gadw dros y misoedd diwethaf.

Maen nhw'n hynod o awyddus i glywed gan unrhyw un welodd y cerbyd ar y dydd Sul, yn enwedig tua amser cinio.

Ymosodwyd ar Aamir yng nghartref y teulu ar Heol Ninian tua 1.40pm.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un yn ardal Y Rhath neu Cathays sydd a theledu cylch cyfyng i gysylltu nhw yn Swyddfa Heddlu Canolog Caerdydd ar 029 2057 1530.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y 60 o swyddogion sy'n gweithio ar yr achos wedi gwylio cannoedd o oriau eisoes o luniau teledu cylch cyfyng.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu yn yr ystafell ymchwilio neu gysylltu gyda Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific