British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 24 Ebrill 2010, 08:40 GMT 09:40 UK
Rali yn erbyn cau cartrefi gofal

Protest
Roedd mwy na 100 yn protestio yn Llanelli

Roedd o leia 100 mewn rali yn Llanelli ddydd Sadwrn yn erbyn bwriad i gau cartrefi gofal yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd ymgyrchwyr y byddai cau'r cartrefi yn golygu colli hyd at 175 o welyau i'r henoed a 150 o swyddi.

Yn ôl y cyngor sir, ni fydd unrhyw newidiadau tra bod tasglu arbennig yn adolygu cyfres o argymhellion.

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn bwriadu newid sut y maen nhw'n gofalu am bobl hŷn, gan gynnwys mwy o bwyslais ar ddefnyddio tai gwarchod a gofalwyr yn y cartref.

Ond mae'r ymgyrchwyr yn Llanelli wedi dweud eu bod yn poeni y byddai hynny'n golygu cau cartrefi gofal St Paul's a Chaemaen.

'Ariannu'

Yn ogystal â'r ddau gartref yn Llanelli, mae dyfodol pedwar arall yn y sir yn y fantol, Annedd yn Llanybydder, Argel a Thawelan yng Nghaerfyrddin a Glanmarlais yn Llandybie.

Dywedodd Jeff Baker, trefnydd undeb Unsain yng Nghymru, eu bod nhw'n erbyn cynlluniau'r sir.

"Does yna ddim gwrthwynebiad i'r syniad o ddarparu ar gyfer pobl sydd eisiau byw bywyd mwy annibynnol wrth dyfu'n hŷn - ond bod cynlluniau o'r fath yn cael eu hariannu.

"Ond mae'n rhaid i'r sir dderbyn y bydd canran o'r henoed angen y math yma o ofal, hynny gofal cartrefi preswyl.

"Mae'r sir yn ceisio defnyddio'r ffaith eu bod yn newid pwyslais fel esgus i gau cartrefi."

Roedd protestwyr yn ymgynnull gyferbyn â Neuadd y Dref cyn gorymdeithio ar hyd Stryd Murray a Stryd Cowell a chlywed areithiau y tu allan i siop Boots yn y ganolfan siopa.

'Yn becso'

Eisoes mae ymgeiswyr y pedair prif blaid yn yr etholiad cyffredinol wedi dweud eu bod yn cefnogi'r ymgyrch i gadw'r cartrefi ar agor.

Dywedodd y Parchedig David Jones o Gapel Greenfield yn Llanelli: "Mae pawb yn becso am ddyfodol y cartrefi gofal.

"Y broblem yw hyn - mae'r hen bobol yn y cartrefi yn gofyn 'Ble y'n ni'n gorfod symud?'

"Maen nhw wedi bod yn y cartrefi hyn am flynydde ac maen nhw wedi bod yn hapus iawn."

Dywedodd Bruce McLernon, y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, y byddai'r tasglu'n cyflwyno cynigion i'r bwrdd gweithredol yn yr haf.

"Mae'r tasglu'n ystyried pob opsiwn er mwyn dod o hyd i'r ffyrdd mwya effeithiol o ddarparu gofal i'r henoed yn y sir."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific