British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Ebrill 2010, 14:32 GMT 15:32 UK
Llwyddiant uned achub anifeiliaid y gwasanaeth tān

Y gwasanaeth tān yn ymarfer achub ceffyl
Yr uned newydd yn ymarfer

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod tîm newydd gafodd ei sefydlu i achub anifeiliaid mawr wedi bod yn llwyddiannus.

Mae'r tîm ym Mae Colwyn.

Cafodd ei sefydlu bum mis yn ôl er mwyn penderfynu'r dull gorau o achub anifeiliaid.

Bob blwyddyn mae 40 o anifeiliaid mawr yn cael eu hachub yng ngogledd Cymru.

Erbyn hyn, bydd mwy o staff yn cael eu hyfforddi yn y maes.

Ceffylau, gwartheg a defaid yw'r rhan fwyaf o anifeiliaid dan sylw ond unwaith bu'n rhaid achub eliffant.

Dywedodd Tim Owen o'r gwasanaeth fod yr uned newydd yn "effeithiol iawn".

"Rydyn ni'n awyddus i rannu ein profiadau â gwasanaethau eraill."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific