Bydd hi'n derbyn y fedal ym mis Awst
|
Y gantores a'r hyfforddwraig Leah Owen yw enillydd Medal Syr T H Parry Williams eleni. Mae hi'n amlwg ym myd cerdd dant ac mae wedi hyfforddi unigolion a phartïon o bob oed. Dywedodd yr Eisteddfod fod y fedal yn cael ei chyflwyno i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol arbennig yn eu hardal a bod pwyslais arbennig ar bobl sy wedi gweithio â phobl ifanc. "Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Leah wedi gweithio'n ddiflino dros y Pethe yn ardal Dinbych am 30 mlynedd, gan ysbrydoli a chefnogi cenedlaethau o drigolion y fro a'u hannog i gymryd rhan a mwynhau diwylliant ein cenedl," meddai llefarydd. "Mae hi'n hyfforddwraig heb ei hail, yn gweithio gydag unigolion a phartïon o bob oed, yn eu paratoi'n drylwyr ar gyfer pob perfformiad, gan lwyddo i ennyn eu cefnogaeth, eu cydweithrediad a datblygu'u brwdfrydedd gyda'i natur annwyl a charedig. 'Heb ei hail' "Yn gefnogwr heb ei hail o'n holl wyliau cenedlaethol, mae ymroddiad a chefnogaeth Leah i'r Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd yn arbennig, nid yn unig ar y llwyfan ond hefyd yn y gwaith o drefnu a chodi proffil y Brifwyl yn lleol. "Mae hefyd yn feirniad cenedlaethol dawnus, a'i sylwadau adeiladol a gofalus bob amser yn taro deuddeg, ac yn gyngor gwerthfawr i unrhyw berfformiwr." Dywedodd yr Eisteddfod fod ei chyfraniad i fywyd diwylliannol, ieithyddol a chymunedol ei hardal yn amhrisiadwy. 'Yn gonglfaen' "Yn gonglfaen i'r Pethe yn lleol ers blynyddoedd lawer, mae brwdfrydedd ac ymroddiad Leah yn crisialu amcanion sefydlu Cronfa Goffa Syr T H Parry Williams." Yn briod ag Eifion Lloyd Jones, mae Leah yn fam i bedwar o blant, Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys. Mae'n byw ym Mhrion, Dinbych. Bu Syr T H Parry-Williams yn cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol yn frwd ac yn Awst 1975, wedi ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu ei gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau'r Eisteddfod.
|