British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Ebrill 2010, 18:38 GMT 19:38 UK
Marwolaeth 1990: Ymchwiliad posib

Robbie Powell
Bu farw Robbie Powell mewn ysbyty yn Abertawe yn 1990.

Mae Prif Weinidog Cymru yn ystyried cynnal ymchwiliad i farwolaeth bachgen 10 oed yn 1990.

Bu farw Robbie Powell o Abertawe o glefyd Addison's wedi i feddygon fethu adnabod y cyflwr sy'n brin iawn ond un sy'n bosib ei drin.

Mewn cwest yn 2004, cofnodwyd iddo farw o achosion naturiol oedd wedi eu gwaethygu oherwydd esgeulustod.

Mae ei deulu wedi ymgyrchu ers blynyddoedd am ymchwiliad cyhoeddus, ac fe wnaethon nhw gyfarfod gyda'r prif weinidog Carwyn Jones - bydd yntau'n gwneud penderfyniad terfynol o fewn yr wythnosau nesa.

Mae hi wedi bod yn frwydr hir am rywbeth ddylai fod wedi digwydd ar unwaith
William Powell

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Yn dilyn cyflwyniadau gan y bobl berthnasol, mae'r prif weinidog o'r farn fod yr achos yn codi ystyriaethau sy'n ddigon difrifol i gael eu hystyried gan ymchwiliad."

Brwydr hir

Mae tad Robbie, William Powell o Ystradgynlais, wedi ymgyrchu ers blynyddoedd am ymchwiliad.

Dywedodd: "Mae'n ddatblygiad cyffrous...... newyddion mawr. Rydym wedi bod yn brwydro am ymchwiliad cyhoeddus am ugain mlynedd.

"Mae hi wedi bod yn frwydr hir am rywbeth ddylai fod wedi digwydd ar unwaith."

Y llynedd fe ddywedodd wrth BBC Cymru: "Roedd y meddygon yn dweud wrtha i fod dim o'i le arno fo. Fe wnes i addewid iddo ar ei wely angau y byddwn i'n mynd at wraidd beth aeth o'i le."

Yn 2004, fe glywodd cwest fod ymgynghorydd ysbyty wedi gorchymyn prawf fyddai wedi adnabod clefyd Addison, ond chafodd y prawf hwnnw erioed ei wneud.

Yn y pythefnos cyn ei farwolaeth, fe gafodd Robbie ei weld saith o weithiau gan bump o feddygon gwahanol. Wnaeth yr un ohonyn nhw sylweddoli y gallai fod yn dioddef o'r cyflwr.

Poen stumog

Roedd ei symptomau o boen stumog wedi arwain meddygon i gredu ei fod yn dioddef o lid y perfedd.

Y tro cyntaf i'r teulu glywed am glefyd Addison's oedd yn dilyn yr archwiliad post mortem.

Dywedodd y cyn brif weinidog Rhodri Morgan ei fod yn ystyried sefydlu ymchwiliad cyhoeddus ar ei ddiwrnod olaf yn y swydd, gan basio'r penderfyniad ymlaen i'w olynydd Carwyn Jones.

Ond dywedodd Mr Powell: "Pan yn yr wrthblaid roedd Rhodri Morgan wedi cefnogi ein cais am ymchwiliad cyhoeddus, ond fe newidiodd ei feddwl pan ddaeth i'r brif swydd.

"Fe oedodd wedyn am 10 mlynedd cyn dweud ei fod yn ystyried ymchwiliad ar ei ddiwrnod olaf".



HEFYD
Robbie: ymchwiliad gam yn nes
25 Chwef 09 |  Newyddion
Ymchwiliad wedi 'esgeulustod'
01 Mai 04 |  Newyddion
Rhieni yn derbyn iawndal meddyg
12 Awst 05 |  Newyddion
Beirniadu meddyg ac ymgynghorydd
08 Ebr 04 |  Newyddion
Cynnal cwest wedi 14 mlynedd
18 Rhag 03 |  Newyddion
Tad yn addo dod o hyd i'r gwir
30 Ebr 04 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific