British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Ebrill 2010, 07:15 GMT 08:15 UK
Seremoni i anrhydeddu arwr o'r Ail Ryfel Byd

Awyr-Lefftenant Norman Macqueen
Cafodd Norman Macqueen ei gladdu ar ynys Melita.

Bydd seremoni arbennig ddydd Gwener yn cofio am ddewrder peilot o Sir Ddinbych a laddwyd yn yr Ail Rhyfel Byd.

Roedd yr awyr-lifftenant Norman Carter Macqueen yn 22 oed pan gafodd ei ladd ar ynys Melita yn 1942.

Cafodd y gŵr o'r Rhyl ei wobrwyo gyda'r Groes Hedfan Neilltuol (DFC) ddyddiau yn unig cyn ei farwolaeth.

Bydd copi o'r fedal yn cael ei gyflwyno i Glyn Pickering, maer Y Rhyl, yn llyfrgell y dref am 11am.

Codi o'r rhengoedd

Cafodd Mr Macqueen ei eni yng nghanolbarth Lloegr yn 1920, ond symudodd ei deulu i ogledd Cymru lle bu ei dad yn feddyg a llawfeddyg amlwg.

Dywed yr hanesydd lleol Charles Leach fod cofnodion yn dangos iddo ymuno gyda'r awyrlu o'r Rhyl ar Fedi 10, 1939.

Fe gododd o'r rhengoedd i fod yn Awyr-Lifftenant erbyn y flwyddyn ganlynol.

Cafodd ei ddewis i wasanaethu dramor yn 1942, a chael ei yrru i Melita gyda sgwadron 249 yr Awyrlu Brenhinol.

Fe chwaraeodd ei uned rhan flaenllaw yn amddiffyn yr ynys yn erbyn lluoedd Yr Almaen a'r Eidal, a chredir fod Mr Macqueen wedi saethu o leiaf saith o awyrennau'r gelyn i lawr.

Ond ar Fai 4, 1942, cafodd ei awyren Spitfire ei ddifrodi mewn ymosodiad. Credir ei fod yntau wedi cael ei saethu'n ogystal, a'i fod wedi mynd yn anymwybodol.

Gwrhydri

Plymiodd ei awyren i'r ddaear ger maes awyr Ta Kali.

Ar Fai 1, 1942, cyhoeddodd papur newydd y London Gazette fod Mr Macqueen wedi cael ei wobrwyo gyda'r DFC er mwyn cydnabod ei wrhydri mewn gweithredoedd yn erbyn y gelyn yn yr awyr.

Gydol ei yrfa filwrol, mae'r Awyr-Lifftenant Macqueen wedi rhoi gwasanaeth gwerthfawr
London Gazette

Mai 1, 1942

Dyw hi ddim yn wybyddus os oedd yntau'n ymwybodol o'r wobr pan gafodd ei ladd.

Dywedodd y Gazette: "Bu'n swyddog yma yn rhan o sawl cyrch dros dir y gelyn, gan ddinistrio nifer o'u hawyrennau.

"Yn y dwyrain canol fe saethodd bedwar o awyrennau'r gelyn yno yn ogystal.

"Gydol ei yrfa filwrol, mae'r Awyr-Lefftenant Macqueen wedi rhoi gwasanaeth gwerthfawr dros ben. Mae wedi dangos gallu ac arweiniad gwych."

Cafodd ei gladdu ym mynwent Kalkara, ac yn rhannu bedd gyda nifer o aelodau eraill o'r Awyrlu Brenhinol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific