British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Ebrill 2010, 10:59 GMT 11:59 UK
Tywysog yn dod i Gymru

Y Tywysog William

Bydd y Tywysog William yn cael ei anfon i Ynys Môn os bydd ei hyfforddi i fod yn beilot yn llwyddiannus.

Mae ei gwrs hyfforddi fel peilot hofrennydd achub yn dod i ben ym mis Medi pan fydd yn symud i safle'r Awyrlu yn Y Fali.

Ar y cychwyn, cyd-beilot fydd y tywysog. Os yw'n addawol, fe fydd yn dod yn beilot llawn.

Mae'r gwaith fel arfer yn para am dair blynedd.

Dywedodd llefarydd Palas St James: "Penderfynwyd anfon y tywysog i'r Fali oherwydd buddiannau'r Awyrlu ... fe fydd ei sgiliau'n gydnaws â'r her o hedfan o'r Fali.

"... mae chwilio ac achub o'r Fali yn her oherwydd hedfan dros fynyddoedd a moroedd stormus fel rhan o waith y gwasanaethau brys sifil a milwrol yn yr ardal."



HEFYD
Tywysog: Hyfforddi yng Nghymru
12 Ion 09 |  Newyddion
Tywysog ar gwrs arbennig
15 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific