British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010, 10:28 GMT 11:28 UK
Etholaeth: Ynys Mn

  LLAF yn cadw

YN FANWL
Enw Plaid Pleidleisiau % +/-%
Albert Owen Llafur 11,490 33.4 -1.3
Dylan Rees Plaid Cymru 9,029 26.2 -4.9
Anthony Ridge-Newman Ceidwadwyr 7,744 22.5 11.4
Matt Wood Democratiaid Rhyddfrydol 2,592 7.5 0.7
Peter Rogers Annibynnol 2225 6.5 6.5
Elaine Gill UKIP 1,201 3.5 2.5
David Owen Y Blaid Gristnogol 163 0.5 0.5
Mwyafrif 2,461 7.1  
Y nifer a bleidleisiodd 34,444 68.8 1.3

Dyma oedd un o dargedau Plaid Cymru

PROFFIL YR ETHOLAETH

Sedd Cledwyn Hughes, Aelod Seneddol y blaid Lafur, oedd Ynys Môn am dri degawd. Yna fe'i cipiwyd gan Keith Best i'r Ceidwadwyr yn 1979 pan ddaeth Mrs Thatcher i rym. Y Ceidwadwyr oedd yn fuddugol yno ym 1983 hefyd ond ar ôl i Keith Best adael y swydd ym 1987, fe ildiodd ei olynydd, Roger Evans y sedd i ymgeisydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones. Fe ddaliodd yntau ei afael yn y sedd â mwyfrifoedd bychan dros y Ceidwadwyr ym 1992 ac yna dros Lafur ym 1997.

Fe gipiodd y blaid Lafur y sedd yn 2001 â mwyfrif o 800. Fe gynyddodd mwyafrif Aelod Seneddol y blaid, Albert Owen i 1,242 yn 2005.

Ynys Môn yw'r ynys fwyaf oddi ar arfordir Cymru a Lloegr. Mae'r etholaeth hefyd yn cynnwys Ynys Cybi.

Afon Menai sy'n gwahanu Ynys Môn oddi wrth y tir mawr ac mae dwy bont hanesyddolyn ei chysylltu ag arfordir Gogledd Cymru.

Caergybi yw un o brif drefi'r ynys, sydd hefyd yn borthladd pwysig ar gyfer llongau sy'n croesi Môr Iwerddon.

Alwminiwm Môn oedd y prif gyflogwr gweithgynhyrchu ar yr ynys ond caewyd y safle ym mis Medi 2009.

Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig. Mae'r rhan fwyaf o'r 125m o arfordir yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu'n Arfordir Treftadaeth.

STRAEON O'R ETHOLAETH

Er bod Plaid Cymru a'r blaid Lafur mewn clymblaid ym Mae Caerdydd, mae'n nhw mewn brwydr ffyrnig mewn sawl etholaeth ar draws y Gogledd Orllewin




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific