British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010, 10:14 GMT 11:14 UK
Etholaeth: Pontypridd

  LLAF yn cadw

YN FANWL
Enw Plaid Pleidleisiau % +/-%
Owen Smith Llafur 14,220 38.8 -15.4
Michael Powell Democratiaid Rhyddfrydol 11,435 31.2 11.2
Lee Gonzalez Ceidwadwyr 5,932 16.2 4.6
Ioan Bellin Plaid Cymru 2,673 7.3 -3.7
David Bevan UKIP 1,229 3.4 0.8
Simon Parsons Y Blaid Lafur Sosialaidd 456 1.2 1.2
Donald Watson Y Blaid Gristnogol 365 1.0 1.0
John Matthews Y Blaid Werdd 361 1.0 1.0
Mwyafrif 2,785 7.6  
Y nifer a bleidleisiodd 36,671 63.0 -0.2
PROFFIL YR ETHOLAETH

Dim ond tri Aelod Seneddol wedi cynrychioli Pontypridd er 1945, ac mae pob un o'r rheiny yn aelodau o'r Blaid Lafur. Mi gafodd Kim Howells ei ethol am y tro cyntaf mewn is-etholiad ym 1989 yn dilyn marwolaeth Brynmor John, oedd wedi cynrychioli'r ward er 1970.

Mae Dr Howells wedi dal ei afael ar ei sedd ymhob etholiad ers hynny, gan ennill mwyafrif o 13,191 o bleidleisiau yn 2005, ond mae'n ymddeol eleni.

Yn yr etholiad hwn, mae nifer o wardiau wedi cael eu symud o Bontypridd. Mae etholwyr yn ward Pentyrch a Chreigiau/Sain Ffagan wedi cael eu symud i Orllewin Caerdydd. Mae ward Cilfynydd a Glyncoch wedi cael ei symud i Gwm Cynon.

Mae'r etholaeth, sydd wedi ei leoli o amgylch tref Pontypridd, yn cynnwys cyn bentrefi glofaol ar gyrion y cymoedd,.

Hen drefi glofaol a masnachol yw Pontypridd a Thonyrefail, sydd i'r gogledd. Mae nifer o bobl yn cymudo ymhellach i'r cwm, i'r stadau diwydiannol fel Trefforest.

Mae'r Bathdy Brenhinol hefyd wedi ei leoli yma, yn Llantrisant, ac mae nifer o bobl yn gweithio yno ac yn Ysbyty Dewi Sant.

Mae hefyd nifer sylweddol o bobl yn cymudo i Gaerdydd, ac mae campws Prifysgol Morgannwg yn Nhrefforest yn golygu bod nifer o fyfyrwyr yn byw yma.

STRAEON O'R ETHOLAETH




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific