British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010, 10:03 GMT 11:03 UK
Etholaeth: Maldwyn

  CEID yn disodli DRh

YN FANWL
Enw Plaid Pleidleisiau % +/-%
Glyn Davies Ceidwadwyr 13,976 41.3 13.8
Lembit Opik Democratiaid Rhyddfrydol 12,792 37.8 -12.5
Heledd Fychan Plaid Cymru 2,802 8.3 1.3
Nick Colbourne Llafur 2,407 7.1 -5.2
David Rowlands UKIP 1,128 3.3 0.4
Milton Ellis NF 384 1.1 1.1
Bruce Lawson Annibynnol 324 1.0 1.0
Mwyafrif 1,184 3.5  
Y nifer a bleidleisiodd 33,813 69.4 3.1

Enillodd Glyn Davies y sedd gyda mwyafrif o 1,184

PROFFIL YR ETHOLAETH

Mi gipiodd y Ceidwadwr Delwyn Williams y sedd yn 1979, cyn ei cholli ym 1983, a dyna'r unig fwlch mewn cyfnod Rhyddfrydol hir. Mae'n ardal a chafodd ei dylanwadu'n ddwfn gan y seneddwyr Clement Davies (1945-62), Emlyn Hooson (1962-79) ac yn fwy diweddar Alex Carlile (1983-97), a oedd yn y swyddi am gyfnodau hir, cyn i Lembit Öpik gipio'r sedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 1997.

Llwyddodd i ddal ei afael ar y sedd yn yr etholiadau cyffredinol yn 2001 a 2005, gyda mwyafrif o 7,173 o bleidleisiau yn 2005.

Ar gyfer yr etholiad cyffredinol hwn, mae Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin, a oedd arfer bod yn rhan o ranbarth etholiadol De Clwyd, wedi ei symud i fod yn rhan o ranbarth etholiadol Maldwyn.

Mae'r etholaeth wledig yma yn cynnwys gogledd Powys.

Y Drenewydd yw'r prif dref, sydd i'r de orllewin o Drefaldwyn. Y Drenewydd yw man geni Robert Owen, ac mae ei gyn-gartref wedi ei droi'n amgueddfa. Ymhlith trefi eraill yn yr etholaeth mae'r Trallwng a Machynlleth, trefn sy'n cael ei gysylltu'n bennaf â hanes Owain Glyndŵr yn y 15fed ganrif.

Mae'r rhan fwyaf o'r bobl yn yr etholaeth yn gweithio yn y diwydiant amaeth, y diwydiannau ysgafn a'r diwydiant twristiaeth. Mae'r boblogaeth yno, ar gyfartaledd, yn hŷn, ac mae nifer o bobl sydd wedi ymddeol yn symud i'r ardal.

STRAEON O'R ETHOLAETH




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific