British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010, 09:22 GMT 10:22 UK
Etholaeth: De Caerdydd a Phenarth

  LLAF yn cadw

YN FANWL
Enw Plaid Pleidleisiau % +/-%
Alun Michael Llafur 17,262 38.9 -7.7
Simon Hoare Ceidwadwyr 12,553 28.3 4.4
Dominic Hannigan Democratiaid Rhyddfrydol 9,875 22.3 2.4
Farida Aslam Plaid Cymru 1,851 4.2 -1.1
Simon Zeigler UKIP 1,145 2.6 1.2
George Burke Annibynnol 648 1.5 1.5
Matt Townsend Y Blaid Werdd 554 1.2 -0.6
Clive Bate Y Blaid Gristnogol 285 0.6 0.6
Robert Griffiths Plaid Gomiwnyddol Prydain 196 0.4 0.4
Mwyafrif 4,709 10.6  
Y nifer a bleidleisiodd 44,369 60.2 2.0
PROFFIL YR ETHOLAETH

Llafur sydd wedi dal y sedd hon yn ne Caerdydd er 1945, ac yn ystod y cyfnod hwnnw dim ond dau Aelod Seneddol sydd wedi ei chynrychioli.

Y cyn Brif Weinidog James Callaghan oedd yr aelod rhwng 1945 a 1987 pan oedd yn cael ei alw'n De-Ddwyrain Caerdydd.

Cafodd ei olynu gan Alun Michael a oedd, yn ogystal â bod yn Aelod Seneddol, hefyd yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol rhwng 1999 a 2000.

Ef oedd Prif Ysgrifennydd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol tan iddo ymddiswyddo ym mis Chwefror 2000. Oherwydd cynnydd ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 2005, cafodd mwyafrif Mr Michael ei gwtogi i 9,237.

Yn yr etholiad hwn, mae mân newidiadau yn golygu bod ward Abersili ym Mro Morgannwg yn cael ei ychwanegu i'r etholaeth.

Mae'r etholaeth yn meddiannu Bae Caerdydd a ffiniau cyngor y ddinas, ac yn cynnwys yr ardal o gwmpas y Cynulliad Cenedlaethol a thref glan môr Penarth ym Mro Morgannwg.

Oherwydd adfywiad ardal de Caerdydd, mae llawer o bobl ifanc, dosbarth canol wedi symud i'r ardal. Mae llawer ohonyn nhw wedi dod i fyw i gartrefi llewyrchus o amgylch Bae Caerdydd.

Mae wardiau Caerdydd dipyn yn dlotach o hyd na'r rhai ym Mro Morgannwg. Mae'r Fro yn cynnig newid byd o olygfeydd y ddinas, ac fe fydd potensial twristiaeth Penarth yn cynyddu'n sylweddol wrth i economi Caerdydd dyfu ymhellach.

Mae'r Fro yn cynnig digon o weithgareddau, a'r rheiny'n gwasanaethu ystod eang o ddiddordebau.

Un o brif atyniadau'r etholaeth yw Canolfan Y Mileniwm.

STRAEON O'R ETHOLAETH

Golwg ar etholaethau Caerdydd




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific