British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 12 Ebrill 2010, 15:12 GMT 16:12 UK
Cyhoeddi enw'r llanc gafodd ei lofruddio yng Nghaerdydd

Aamir Siddiqi
Bu farw Aamir Siddiqi wedi ymosodiad yn ei gartref

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw bachgen 17 oed gafodd ei lofruddio yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Bu farw Aamir Siddiqi wedi digwyddiad yng nghartref y teulu yn Ffordd Ninian yn ardal Y Rhath am 1.40pm.

Mae'r heddlu yn chwilio am ddau ddyn Asiaidd gafodd eu gweld yn gadael yr ardal ar y pryd.

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Aamir, gafodd ei ddisgrifio fel bachgen talentog.

Cafodd ei rieni, 55 oed a 68 oed, eu hanafu yn ddifrifol yn ystod y digwyddiad.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty wedi triniaeth.

'Gŵr bonheddig'

Mewn teyrnged fe wnaethon nhw ddweud bod Aamir yn hoff iawn o chwaraeon, yn enwedig criced, pêl-droed Americanaidd a phêl-droed.

"Roedd yn mwynhau cymryd rhan yn ogystal â gwylio.

DISGRIFIAD O'R DDAU DDYN
Dyn yn ei 20au hwyr o dras Asaidd. Taldra cymedrol ac o faint cyhyrog. Gwallt tywyll ac roedd yn gwisgo dillad tywyll
Dyn yn ei 20au cynnar o dras Asaidd. Yn denau ac yn 5 troedfedd 11 modfedd o daldra. Roedd yn gwisgo siaced wen gyda streipen llwyd i lawr y llewys

"Roedd yn hoff o faterion cyfoes â gwleidyddiaeth ac roedd o eisiau astudio'r gyfraith.

"Roedd o wedi cael lle ym Mhrifysgol Caerdydd wedi'r arholiadau.

"Fel ei dad roedd yn ŵr bonheddig, yn garedig, yn sensitif ac yn ddoniol iawn.

"Roedd yn gymeriad unigryw ac roedd o bob tro yn barod i helpu unrhyw un."

Mygydau

Dywedodd yr heddlu bod archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal ddydd Llun.

Maen nhw'n credu i Aamir gael ei drywanu.

Y Ditectif Brif Uwcharolygydd Stuart McKenzie sy'n arwain yr ymchwiliad.

"Fe wnaeth dau ddyn yn gwisgo mygydau wthio i mewn i'r tŷ gyda'r arf ac ymosod ar Aamir," meddai.

"Fe wnaeth swyddogion geisio rhoi cymorth cyntaf i'r llanc cyn i'r parafeddygon gyrraedd a mynd a fo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle bu farw.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 1.45pm brynhawn Sul  (Llun: Rachel Guber)
Fe gafodd yr heddlu eu galw am 1.45pm brynhawn Sul (Llun: Rachel Guber)

"Dyma ddigwyddiad brawychus ac roedd rhieni Aamir yn dyst i hyn.

"Fe wnaethon nhw gael eu hanafu wrth geisio achub eu mab."

Eglurodd yr heddlu fod Aamir yn fachgen talentog iawn oedd â dyfodol disglair.

"Ar hyn o bryd does 'na ddim rheswm dros yr ymosodiad ac rydym yn chwilio am y rhai sy'n gyfrifol.

"Hoffwn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu yn yr ystafell ymchwilio neu gyda Taclo'r Tacle."

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad â dau ddyn o dras Asiaidd a welwyd yn gadael yr ardal ar y pryd.

Wrth iddyn nhw adael yr ardal fe wnaethon nhw dynnu mygydau du oddi ar eu hwynebau.

Mae rhai ffyrdd a lonydd o gwmpas y stryd wedi cael eu cau wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 029 2057 1530 neu Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific