British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 10 Ebrill 2010, 09:57 GMT 10:57 UK
Ergyd arall: Colli 180 o swyddi

Welsh Country Foods, Gaerwen
Safle Welsh Country Foods yn y Gaerwen

Mae cwmni Welsh Country Foods wedi cadarnhau y bydd 181 yn cael eu diswyddo yn eu safle yn Y Gaerwen ar Ynys Môn.

Roedd y cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod i fod i ddod i ben ddydd Llun.

Ond gan nad oedd yr amgylchiadau masnachu wedi gwella ers mis Ionawr, mae'r cwmni wedi dweud y bydd y swyddi'n diflannu.

Mae hon yn ergyd arall i Ynys Môn - dros gyfnod o 18 mis mae mwy na 1,000 o swyddi wedi diflannu.

Dywedodd Paddy McNaught ar ran undeb Unite fod staff yn "siomedig iawn".

Lleddfu

Yn ôl y cwmni, mae gwerthu llai o gig oen a llai o alw am brosesu'r cig wedi golygu ail-strwythuro.

Bydd y gwaith pecynnu cynnyrch bwyd yn symud i ffatri arall y prif gwmni - Vion UK - yn Winsford yn Sir Gaer.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi trafod ag eraill yn y gadwyn ddosbarthu er mwyn ceisio lleddfu sgileffeithiau llai o alw am gynnyrch.

Ond, yn anffodus, doedd dim dewis ond ail-strwythuro.

Llygedyn o obaith yw cais cynllunio gafodd ei drafod gan y cwmni yr wythnos hon - datblygiad ar safle Parc Cybi allai olygu 300 o swyddi.

Ailhyfforddi

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn cydweithio â Chyngor Môn i helpu ailhyfforddi'r gweithwyr.

"Rydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu ers misoedd," meddai llefarydd, "gan gynnwys cynllun ProAct ...

"Mae'r gweinidog wedi sefydlu gweithgor fydd yn ystyried cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

"Wrth gwrs, fe fyddwn yn helpu gweithwyr i ddod o hyd i waith arall neu ddysgu sgiliau newydd."

Roedd 200 i fod i golli eu gwaith yn Y Gaerwen, yn ôl y cynllun gwreiddiol ym mis Ionawr.

Mae naw wedi cytuno i symud i Winsford a 10 yn symud i waith prosesu cig y cwmni yn Llangefni.



HEFYD
Amaeth: Rheolau newydd 'dadleuol'
01 Ion 10 |  Newyddion
Glendid bwyd: Canllawiau newydd
11 Maw 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific