Mae Doctor Who ymhlith y rhaglenni sy'n cystadlu am wobr
|
Mae gan dri o ddarlledwyr Cymru ymron 80 o enwebiadau rhyngddyn nhw ar gyfer gwobrau Bafta Cymru eleni. Mae S4C wedi cael enwebiadau ar gyfer 44 gwobr tra bod BBC Cymru wedi ei henwebu 31 o weithiau, ac ITV Cymru yn cael tri enwebiad. Ymhlith y rhaglenni sy'n cystadlu am wobr y mae Doctor Who, ffilm S4C Ryan a Ronnie a drama ITV , A Plot to Kill a Prince. Y ffilm Ryan a Ronnie sydd wedi cael y nifer fwyaf o enwebiadau o blith rhaglenni S4C gyda chwe enwebiad, gan gynnwys Y Ffilm/Drama Orau, Awdur Gorau ar Gyfer y Sgrin a'r Actor Gorau ar gyfer portread Aled Pugh o Ryan Davies. Mae'r rhaglen ddogfen Dwy Wraig Lloyd George gyda Ffion Hague, sy'n olrhain hanes y menywod ym mywyd Lloyd George, hefyd wedi ei henwebu mewn tri chategori. Bydd y rhaglen yn cystadlu am y gwobrau Rhaglen Ddogfen/Drama Ddogfen Orau, Y Camera Gorau: Heblaw Drama a'r Cyfarwyddwr Gorau. Dywedodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: "Rydw i'n falch iawn fod cynifer o raglenni S4C wedi cael eu henwebu. "Mae'r ystod eang o raglenni ym mhob maes yn dangos dyfnder talent a chreadigrwydd cynhyrchwyr rhaglenni teledu ledled Cymru." 23 categori Mae enwebiadau'r BBC yn cynnwys 23 categori gwahanol, gan gynnwys cyfres ddrama teledu gorau ar gyfer Doctor Who a Torchwood, a'r darlledu gorau o ddigwyddiad byw ar gyfer BBC Canwr y Byd Caerdydd (Paul Bullock), Eisteddfod Genedlaethol Meirion A'r Cyffiniau 2009 (Jonathan Davies) a Scrum V Live (Huw Tal). Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards: "Mae'r nifer helaeth o enwebiadau mewn amrediad eang o gategorïau yn deyrnged i'r bobl dalentog sy'n gwneud rhaglenni BBC Cymru Wales." Mae ITV Cymru wedi cael enwebiadau am dair gwobr, gyda Hacio G20 yn cystadlu am y rhaglen orau i bobl ifanc, A Plot to Kill a Prince wedi ei henwbu ar gyfer drama orau, a'r Byd y Bedwar yng nghategori rhaglenni materion cyfoes. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm ar Fai 23.
|