British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 9 Ebrill 2010, 06:20 GMT 07:20 UK
Golau gwyrdd i brosiect £1 biliwn

Llun artist o gymuned Glan Llyn
Llun artist o gymuned Glan Llyn

Mae prosiect £1 biliwn ar gyfer cymuned newydd ar safle'r hen waith dur yn Llanwern, Casnewydd, wedi derbyn sêl bendith.

Bydd y gwaith yn dechrau yn fuan ar y prosiect a fydd yn arwain at adeiladu 4,000 o dai dros yr 20 mlynedd nesaf, gan greu 6,000 o swyddi newydd a pharc busnes.

Mae'r datblygwyr St Modwen wedi bod wrthi yn clirio'r safle ers pedair blynedd ac maen nhw nawr wedi arwyddo cytundeb gyda Chyngor Casnewydd.

Bydd hyd at 400,000 tunnell o goncrid a gliriwyd o Lanwern yn cael ei ail ddefnyddio.

Glan Llyn fydd enw'r gymuned a bydd y safle 600 erw yn cynnwys cynlluniau ar gyfer ysgolion, ffyrdd, a chyfleusterau iechyd a hamdden.

Ar ôl gorffen, bydd gwerth y tai a'r adeiladau eraill ar y safle yn fwy nag £1 biliwn, medd y cwmni.

GLAN LLYN
Llun artist o gymuned Glan Llyn
4,000 o dai
Dwy ysgol gynradd
Meithrinfa
Canolfan gymunedol
Llyfrgell
Gorsaf heddlu
Archfarchnad
Meddygfa

Dywedodd Rob Skelston, cyfarwyddwr datblygu gyda St Modwen y byddai Glan Llyn yn "rhan lewyrchus o'r ddinas gyda thai o ansawdd uchel a chyfleoedd o ran swyddi".

Dywedodd y byddai 140 o dai yn cael eu hadeiladu yn y tair blynedd gyntaf.

"Bydd yn cymryd 20 mlynedd i gwblhau oherwydd fe fydd yn gymuned newydd.

"Rydym yn ddatblygwyr a buddsoddwyr hir dymor" meddai Mr Skelston.

"Rydym yn hyderus iawn o gyflawni hyn ."

Dywedodd Andy Evans o adran gynllunio Cyngor Casnewydd: "Bydd hyn yn gyfraniad aruthrol i'n strategaeth i ddatblygu Casnewydd".



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific