British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010, 12:15 GMT 13:15 UK
Yswiriant Gwladol: Ceidwadwyr yn camarwain?

Guto Bebb
Guto Bebb: Ymgeisydd y blaid yn Aberconwy

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi eu cyhuddo o gamarwain yr etholwyr ynglŷn ag addewidion i dorri Yswiriant Gwladol i fusnesau bach.

Mewn pamffled etholiad mae ymgeisydd y blaid yn Aberconwy, Guto Bebb, wedi dweud ei fod "wrth ei fodd" oherwydd addewid ei blaid i "ganiatáu i fusnesau bach beidio â thalu Yswiriant Gwladol i'w 10 aelod staff cyntaf."

Ond mae'r addewid yn wir am fusnesau newydd sy'n cael eu sefydlu o fewn dwy flynedd i Lywodraeth Geidwadol - ac yn parhau am gyfnod o flwyddyn.

Yn ôl Llafur, Y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru mae'r pamffled yn gamarweiniol ac yn awgrymu y bydd pob busnes bach yn elwa.

'Eglur iawn'

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr fod eu polisi'n "eglur iawn" ers wythnosau - a bod y cynlluniau yn eu cyfanrwydd wedi cael cryn sylw.

"Dyma enghraifft arall o'r Ceidwadwyr yn camarwain pobl Cymru yn fwriadol am yr economi" oedd ymateb Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain.

Ychwanegodd mai "dyma'r math o beth sydd yn diflasu pobl am wleidyddiaeth."

Mae Phil Edwards yn sefyll ar ran Plaid Cymru yn Aberconwy ac yn groch ei feirniadaeth o sylwadau Guto Bebb.

"Mae'n amlwg bod y Ceidwadwyr yn fodlon dweud unrhyw beth, boed hynny'n wir neu beidio, er mwyn sicrhau pleidleisiau."

Wrth ymateb ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol dywedodd Ed Townsend, sy'n sefyll yn etholaeth Dwyrain Casnewydd bod "yr economi'n allweddol yn ystod yr etholiad hwn. Ar ôl yr hyn y gwnaeth y Torïaid i'n heconomi yn y 1980au - pam ddylem roi cyfle arall iddyn nhw?"

Yn ôl arbenigwyr, Aberconwy yw un o seddau mwyaf ymylol Cymru, sedd y mae'n rhaid i'r Ceidwadwyr ei chipio os am ennill yr etholiad.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific