British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010, 05:57 GMT 06:57 UK
£200,000 ar gyfer adeiladau hanesyddol

Capel Mawr, Dinbych
Mae lle i fwy na 1,000 yn y Capel Mawr

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi mwy na £200,000 er mwyn trwsio wyth adeilad hanesyddol.

Y grant lleia yw £2,750 a'r un mwya yw £56,000.

Un o'r adeiladau fydd yn elwa yw'r Capel Mawr, Dinbych fydd yn cael £18,000.

Dywedodd Stan Lyall, ysgrifennydd y capel: "Roedd hi'n sioc bleserus i glywed y newyddion.

"Bydd hyn yn talu am 40% o gost y gwaith atgyweirio sydd angen ei wneud, yn arbennig i'r cyntedd a rhan o'r gegin.

"Mae'n adeilad rhestredig sy'n golygu bod rheolau pendant i'w dilyn a chostau uwch.

"Ac mae'n adeilad hollol sgwâr, sy'n anarferol, gydag acwstig bendigedig.

"Mae llai na 200 o aelodau yn y capel, a chanran uchel dros 50 oed ond mae hefyd yn ganolfan i eglwysi Bro Dinbych, gan gynnal cyngherddau a chymdeithasau hanes."

Ar eu hennill
Y Gelli, Llanwytherin, Sir Fynwy: £12,000
Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Plough, Lion Street, Aberhonddu: £56,000
Y Capel Mawr, Stryd y Capel, Dinbych: £18,000
Y Willows, Stryd yr Helyg, Llangollen: £45,000
3 Stryd y Parc, Rhiwabon, Wrecsam : £10,000
Clwb y Bwrdd Glo Cenedlaethol, Tredegar, Blaenau Gwent : £25,000
Gwesty'r Talbot, Y Sgwâr, Tregaron, Ceredigion : £2,750
Fferm y Cwrt, Pen-bre, Sir Gaerfyrddin: £40,000

Ymhlith y bobl enwog sy'n gysylltiedig â'r Capel Mawr mae Thomas Edwards neu Twm o'r Nant, Thomas Gee yr argraffydd, y cyng brif weinidog David Lloyd George, a Gwilym R Jones y llenor.

Dywedodd Mr Lyall: "Mae'r Eglwys Bresbyteraidd wedi penderfynu na fyddai'n briodol gwneud cais am arian loteri.

"Felly mae'r grant yn gyfle i gynnal a chadw'r adeilad."

Mae Fferm y Cwrt, Pen-bre, Sir Gaerfyrddin yn cael grant o £40,000 fel bod modd atgyfnerthu'r adeilad ar frys.

Y gred yw mai hwn yw'r unig adeilad domestig â thystiolaeth o waith adeiladu Oes Elisabeth sydd wedi goroesi yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd Gwesty'r Talbot, y prif adeilad ar sgwâr Tregaron, Ceredigion, yn cael grant o £2,750 ar gyfer trwsio allanol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific