British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 4 Ebrill 2010, 08:48 GMT 09:48 UK
Wyth o gefnogwyr pl-droed yn cael eu harestio

Stadiwm Dinas Caerdydd
Cafodd wyth o bobl eu harestio wedi'r gm rhwng Caerdydd ac Abertawe yn y brifddinas

Dywedodd Heddlu De Cymru bod wyth o bobl wedi cael eu harestio ar ôl y gêm rhwng Caerdydd ac Abertawe yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Yn ôl yr heddlu cafodd pedwar o bobl eu harestio am droseddau'n ymwneud â'r drefn gyhoeddus.

Roedd y cyhuddiadau eraill yn ymwneud ag ymosod ar blismon, rhedeg ar y cae, difrod troseddol a tharfu ar yr heddwch

Cafodd bob un o'r wyth eu harestio yn y stadiwm neu o amgylch y stadiwm.

Mae'r heddlu wedi canmol y mwyafrif o'r cefnogwyr am eu hymddygiad cyn, yn ystod ac wedi'r gêm.

Bron yn ddidrafferth

Roedd dros 25,000 o bobl yn y stadiwm ar gyfer y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm yn y stadiwm newydd.

Cefnogwyr yn ystod gm Caerdydd v Abertawe yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn
Cafodd y cefnogwyr eu canmol gan yr heddlu

"Er gwaetha cychwyn hwyr i'r gêm, a allai fod wedi arwain at fwy o anrhefn o ganlyniad i alcohol, dwi'n falch o ddweud bod y digwyddiad wedi mynd yn ei flaen bron yn ddidrafferth," meddai'r Prif Uwch-arolygydd Josh Jones.

"Mae hyn o ganlyniad i sawl ffactor, lleoliad a threfn y stadiwm newydd, ymddygiad da y cefnogwyr, stiwardiaid Clwb Pêl-Droed Caerdydd a phlismona effeithiol.

"Yn anffodus, roedd 'na ddifrod annerbyniol i'r toiledau y tu mewn i'r stadiwm cyn y gêm.

"Byddwn yn ymchwilio i hyn yn ogystal â delio gyda'r wyth gafodd eu harestio."

Roedd yr heddlu wedi rhybuddio y byddai cefnogwyr yn cael eu gwahardd rhag mynychu gemau os oedden nhw'n camymddwyn yn ystod y gêm.

Roedd y tafarndai o amgylch y stadiwm ar agor yn ystod y dydd i gefnogwyr Caerdydd yn unig.

Cafodd 1,900 o gefnogwyr Abertawe eu hebrwng i'r maes ac yn ôl i Abertawe ar fysus swyddogol.



HEFYD
Heddlu yn rhybuddio cefnogwyr
02 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific