Glan Rees gyda'r gadair fydd yn cael ei rhoi er cof am Dic Jones
Mae dylanwad y diweddar Archdderwydd Dic Yr Hendre ar Gadair Eisteddfod yr Urdd eleni fydd i'w gweld yn gyhoeddus am y tro cyntaf ddydd Mawrth. Teulu Dic Jones sy'n rhoi Cadair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Ceredigion, er cof amdano. Ychydig wythnosau cyn iddo farw bu Dic Jones yn trafod ei weledigaeth ar gyfer y Gadair gyda'r gwneuthurwr a ffrind iddo, Glan Rees. Bellach mae'r gadair wedi ei chwblhau a gweledigaeth Dic Jones yn amlwg mewn cyfres o ddelweddau trawiadol. "Roedd Dic yn bendant iawn mai cadair syml, fodern ddylai hon fod," medd Mr Rees sy'n byw yn Nhrefdraeth ac yn gyn-brifathro Ysgol Bro Ingli. 'Delweddau pwysig' "Ar yr olwg gyntaf, mae hon yn gadair syml ond o edrych yn fwy gofalus, fe welwch ddelweddau cryf a phendant iawn wedi sgwrs gyda Dic, Jean ei wraig a minnau ryw fis cyn i ni golli Dic. "Y ddelwedd amlycaf yw'r un o ffenestr - sydd wedi ei gwneud o wydr lliw - a honno'n edrych i'r dyfodol. "Mae'r gwydr yn dangos delweddau amaethyddol, megis tywysen yn ogystal ag arfordir Sir Aberteifi, oedd i gyd mor bwysig i Dic.
Roedd Dic Jones wedi trafod ei weledigaeth am y Gadair cyn iddo farw
|
"Gofynnodd i mi ddangos y dywysen wedi ei phlygu a hynny i ddangos ei barch mawr ef at y beirdd ifanc. "Roedd yn aml yn dweud wrtho i gymaint o barch yr oedd ganddo at y beirdd ifanc a'r hyn y maen nhw yn ei gyflawni." Ar gefn y gadair mae cwpled Dic o'i gerdd, Y Gamp, 'A wêl y gamp geilw i go' swyn y Gymdeithas honno'. "Mynnodd mai ar gefn y Gadair y byddai'r geiriau ac nid ar y blaen," meddai Mr Rees. Dywedodd gweddw Dic, Jean Jones, fod y gadair wedi ei gwneud "o barch a chariad" at ei gŵr. "Roedden ni'n ffodus fod Glan wedi dod i'n gweld pan ddaeth e. "Roedd Dic yn ei bethe ac fe gawsom ni drafod y steil a'r delweddau a dwi'n gwybod y bydde Dic wrth ei fodd gyda'r Gadair orffenedig." Dathlu cyfraniad Mae'r Gadair yn cael ei rhoi am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun, Tonnau, ac fe fydd y seremoni ddydd Iau, Mehefin 3 2010. Y beirniaid yw Gwenallt Llwyd Ifan a Fflur Dafydd ac fe fydd wyrion Dic Jones, Bedwyr, Peredur ac Ynyr Lloyd Jones yn rhan o'r seremoni. "Rydym yn ddiolchgar iawn i deulu'r diweddar Archdderwydd Dic Jones am roddi'r gadair yma i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2010 er cof amdano," meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru. "Mae'n braf ein bod yn gallu dathlu cyfraniad Dic Jones i'w ardal a'i wlad tra bod yr Eisteddfod yn y fro oedd yn golgyu cymaint iddo. "Dic Jones yw'r unig un i ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn olynol a braf fydd cydnabod yn Llanerchaeron y gamp honno ymysg yr anrhydeddau eraill a ddaeth i'w ran fel bardd."
|