British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Ebrill 2010, 05:42 GMT 06:42 UK
Cynnydd yn achosion canser y croen yng Nghymru

Gwely haul (Llun llyfrgell)
Gwelyau haul a gwyliau rhad sy'n cael y bai am y cynnydd mewn achosion

Mae pobl sy'n eu 60au a 70au yng Nghymru dros bum gwaith yn fwy tebygol o gael gwybod eu bod yn dioddef o'r math perycla o ganser y croen na 30 mlynedd yn ôl.

Yn ôl ystadegau gan elusen Ymchwil Canser UK, mae pobl yr oedran yma yn fwy tebygol o gael y math yma o ganser y croen na'u rhieni.

Yng Nghymru, mae 192 o bobl sy'n eu 60au a 70au yn cael gwybod eu bod yn diodde o felanoma ffyrnig bob blwyddyn.

Daw'r ystadegau wrth i'r elusen gychwyn eu hymgyrch SunSmart 2010, sy'n cael ei ariannu gan Adran Iechyd San Steffan.

Y genhedlaeth hon sydd wedi gweld y cynnydd mwya o achosion - o saith achos bob 100,000 o bobl yng nghanol y 1970au i 36 achos bob 100,000 erbyn hyn.

Mae'r oedran yma yn cyfrannu at 40% o'r 482 o achosion o ganser y croen sy'n cael eu cofnodi bob blwyddyn yng Nghymru.

Effaith

Dynion yn yr oedran yma sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf ac maen nhw saith gwaith yn fwy tebygol o gael y canser nag yn y 1970au.

Mae Ymchwil Canser UK Cymru yn gobeithio y bydd pobl ifanc yn gweld effaith torheulo ar eu teidiau a neiniau ac yn meddwl dwywaith am wneud hynny ar wyliau neu ddefnyddio gwelyau haul.

"Mae newid diwylliant o ran torheulo a gwyliau rhad yn y 1970au yn golygu ein bod nawr yn gweld yr effaith ar genhedlaeth gyfan," meddai rheolwr yr ymgyrch, Caroline Cerny.

"Dydan ni ddim o bell ffordd wedi ennill y frwydr yn erbyn melanoma.

"Mae'r broblem yn bygwth gwaethygu wrth i bobl ifanc barhau i grefu am liw haul a defnyddio'r gwelyau haul.

"Rydym yn rhagweld mai canser y croen fydd y pedwerydd canser mwya cyffredin i ddynion a merched yn y DU erbyn 2024.

"Mae'n rhaid i ni geisio atal hyn."

Rhybuddion

Dywedodd bod modd osgoi melanoma er bod y nifer sydd wedi marw o'r canser wedi mwy na dyblu ers 1973.

"Mae llosgi nid yn unig yn boenus ond mae'n edrych yn hyll ac yn arwydd clir bod pelydrau'r haul wedi niweidio'r croen," meddai.

"Mae'r croen yn edrych yn hŷn.

"Fe ddylai pobl â chroen golau, brychni haul neu fan geni gymryd mwy o ofal ac fe ddylai pawb osgoi llosgi er mwyn cael lliw haul."

Fe wnaeth pob cyngor sir yng Nghymru wahardd gwelyau haul o ganolfannau hamdden ac mae Julie Morgan wedi cyflwyno mesur aelod preifat i wahardd unrhyw un o dan 18 oed rhag defnyddio gwelyau haul yng Nghymru a Lloegr.



HEFYD
ASau o blaid atal gwelyau haul
12 Maw 10 |  Newyddion
Bygythiad canser i bobl ifanc
05 Maw 07 |  Newyddion
Cynnydd cancr croen yng Nghymru
14 Gorff 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific