British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 31 Mawrth 2010, 06:14 GMT 07:14 UK
Rali dros bensiwn cyn-weithwyr

Arwydd Visteon y tu allan i'r ffatri yn Abertawe
Fe wnaeth Visteon gymryd drosodd y gwaith gan Ford yn 2000

Bydd cyn-weithwyr ffatri rhannau ceir Visteon yn Abertawe yn protestio ddydd Mercher ar ôl i'r cwmni ddweud na allan nhw gwrdd â'u hymrwymiadau pensiwn o £350m.

Mae Undeb Unite wedi trefnu'r rali yn San Steffan ar ôl i'r rhan Brydeinig o'r cwmni gael ei roi yn nwylo gweinyddwyr union flwyddyn yn ôl.

Yn ôl gweithwyr fe gafwyd sicrwydd gan Visteon yn 2000 yngyln â'u pensiynau, ond nawr mae cannoedd ohonynt yn wynebu colli hyd at hanner eu pensiynau.

Cwmni Ford oedd yn berchen ar y safle, ond fe roddwyd y ffatri i Visteon yn 2000.

Dywedodd Ford eu bod wedi cadw at eu cyfrifoldebau -tuag at y staff wnaeth drosglwyddo i Visteon pan aeth yn annibynnol.

Darpariaeth

Y llynedd aeth Visteon UK i ddwylo'r gweinyddwyr gyda bron i 1,000 o weithwyr yn Abertawe, Basildon, Belfast ac Enfield, yn colli eu gwaith.

Ar ôl ymgyrchoedd a phrotestiadau dywedodd yr undeb bod 'na gytundeb diswyddo teg wedi ei gynnig.

Ond mae'r undeb nawr yn ymladd dros y ddarpariaeth pensiwn.

Dywedodd un o'r cyn weithwyr, Mike Gard: "Mae pobl yn ystyried rhoi'r gorau i rai o bleserau ymddeoliad, fel gwyliau, y gwnaethon nhw weithio mor galed ar eu cyfer, yn ystyried gwerthu eu tai a symud i dai llai o faint, neu hyd yn oed ddychwelyd i weithio."

Ychwanegodd Mr Gard bod y sefyllfa yn "gwbl annheg".

'Cyfrifoldeb Visteon'

Dywedodd Roger Maddison ar ran undeb Unite: "Fe wnaeth Ford addewidion i'r gweithwyr ynglyn a £350 miliwn o arian pensiwn cyn trosglwyddo i Visteon ac rydym am iddyn nhw gadw at yr addewidion yma."

Ni wnaeth trafodaethau ynghylch y mater rhwng yr undeb ac uwch swyddogion Ford yn Efrog Newydd fis diwethaf ddwyn ffrwyth.

Mewn datganiad dywedodd Ford eu bod wedi cadw at eu cyfrifoldebau tuag at y staff wnaeth drosglwyddo i Visteon yn 2000.

"Roedd y cytundeb yn cynnwys trosglwyddo gweithwyr i Visteon UK ac felly eu pensiynau i gronfa pensiwn Visteon.

"Mae'r sefyllfa i gyn-weithwyr Visteon UK yn anffodus ond mater i Visteon ydi gweinyddu ac ariannu'r termau.

"Mae ymrwymiadau Ford i'r cyn-weithwyr wedi dod i ben a does 'na ddim achos i'w ateb."

Ychwanegodd llefarydd bod Visteon wedi gweithredu fel cwmni annibynnol ers 2000 gan gyfrannu rhannau i Ford.

"Yn ystod y cyfnod yma mae Ford wedi cymryd sawl cam i gefnogi Visteon ac i gynorthwyo Visteon yn eu hymdrechion tymor hir."



HEFYD
Cwmni ceir: 'Cam positif ymlaen'
20 Hyd 07 |  Newyddion
Cwmni ceir: Colli 175 swydd
30 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific