British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 29 Mawrth 2010, 19:50 GMT 20:50 UK
S4C i lansio sianel newydd

Logo S4C
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno fesul rhanbarth

Mae disgwyl i S4C lansio sianel newydd ar Ebrill 30 a fydd yn dangos ei rhaglenni mewn manylder uwch.

S4C Clirlun fydd enw'r sianel, enw a gafodd ei gynnig yn wreiddiol gan un o wylwyr y sianel.

Bwriad S4C yw cynhyrchu pob rhaglen gan ddefnyddio technoleg Manylder Uwch erbyn diwedd 2012.

Ann Evans o Grwbin yng Nghwm Gwendraeth awgrymodd yr enw Clirlun.

"Fe fydd yn deimlad rhyfedd gwylio'r sianel newydd a minnau wedi dewis yr enw Clirlun," meddai Mrs Evans.

'Datblygiad cyffrous'

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Iona Jones: "Rydym yn mwynhau perthynas agos ac adeiladol gyda'n gwylwyr a rhoddwyd cyfle iddyn nhw ddewis enw ein gwasanaeth newydd ac i fathu term newydd yn yr iaith Gymraeg.

"S4C Clirlun yw'n datblygiad cyffrous nesaf - datblygiad sy'n cynrychioli buddsoddiad creadigol, ariannol a thechnolegol arwyddocaol".

Bydd y sianel newydd ar gael o Ebrill ymlaen i wylwyr sy'n derbyn eu gwasanaeth ar blatfform Freeview HD o drosglwyddyddion Gwenfô, Blaenplwyf a Mynydd Cilfái yn ne a gorllewin Cymru.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno fesul rhanbarth, gyda gweddill Cymru yn gallu ei dderbyn ar Freeview HD erbyn mis Gorffennaf.



HEFYD
Gweinidog yn amddiffyn S4C
24 Maw 10 |  Newyddion
Darlledu: 'Angen cystadleuaeth'
21 Ion 09 |  Newyddion
Cyw yn dal i dyfu
27 Ion 10 |  Newyddion
S4C i ddiswyddo staff
11 Chwef 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific