British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Mawrth 2010, 06:49 GMT 07:49 UK
Cymru'n troi'n hollol ddigidol

Erialau
De Ddwyrain Cymru fydd yr ardal olaf i newid i ddigidol

Bydd Cymru gyfan yn ddigidol am ganol nos nos Fawrth, pan fydd y gwasanaeth analog yn cael ei ddiffodd.

Cymru fydd y wlad gyntaf yng ngwledydd Prydain i fod yn gyfan gwbl ddigidol.

Fe fydd cloc arbennig yn Nhonyrefail, yr ardal olaf yng Nghymru i droi'n ddigidol, yn cyfri'r oriau hyd at hanner nos.

Bydd y newid hefyd yn golygu y bydd S4C yn troi'n sianel gyfangwbl Gymraeg ymhob cwr o'r wlad ar ol 12pm.

Trosglwyddydd ategol Tylcha-Ganol ger Tonyrefail fydd yr un olaf i gael ei newid i ddigidol.

Mae'r safle yn Tylcha-Ganol yn derbyn signal o Wenfo ym Mro Morgannwg.

Trosglwyddydd Gwenfo oedd y trosglwyddydd olaf yng Nghymru i gael ei newid o analog i ddigidol.

Mae Gwenfo yn gwasanaethu 649,000 o gartrefi yng Nghaerdydd a de ddwyrain Cymru, ac eisoes mae gwasanaeth BBC 2 analog wedi cael ei ddiffodd.

O ganlyniad i'r newid fe fydd rhaid i bobl sy'n derbyn gwasanaeth gan y trosglwyddydd yma ail-diwnio'r set ddigidol (ac eithrio lloren Sky) er mwyn parhau i dderbyn sianeli.

Fe wnaeth y newid i ddigidol gychwyn yng Nghymru ym mis Awst 2009.



HEFYD
Trosglwyddo'n newid i ddigidol
10 Chwef 10 |  Newyddion
Newid digidol i'r canolbarth
03 Rhag 09 |  Newyddion
Y gogledd ddwyrain yn ddigidol
25 Tach 09 |  Newyddion
Powys yn dechrau newid i ddigidol
04 Tach 09 |  Newyddion
Dinas yn gwbl ddigidol
09 Medi 09 |  Newyddion
Newid digidol: Cyngor i wylwyr
07 Medi 09 |  Newyddion
Cymru'n dechrau troi'n ddigidol
11 Awst 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific