British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 26 Mawrth 2010, 07:19 GMT
Llundain 2012: Urdd yn gwneud ei farc

Ffawd - Sioe Cwmni Theatr Urdd Gobaith Cymru 2009
Bydd y cynllun yn cyrraedd ei benllanw yn Eisteddfod 2012

Mae Cwmni Theatr Urdd Gobaith Cymru yn dechrau cynllun tair blynedd fydd yn cyrraedd ei benllanw yn Eisteddfod Eryri 2012 ac yn cyd-fynd â dathlu'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Dywedodd y mudiad fod y prosiect yn "gyffrous iawn" ar gyfer ieuenctid rhwng 14 a 19 oed

Cwmni Theatr yr Urdd yw'r prosiect Cymraeg cyntaf i gael Marc Ysbrydoli, cydnabyddiaeth Llundain 2012 o brosiect sy'n ysbrydoli eraill.

Bydd y cwmni "newydd" ar lefel daleithiol, hynny yw y gogledd, y canolbarth a'r de, am y ddwy flynedd gyntaf.

Yna bydd y tair talaith yn uno ar gyfer llwyfannu'r perfformiad yn ystod Eisteddfod Eryri 2012.

Bydd y cwmni yng ngofal y Cyfarwyddwr Artistig, Jeremy Turner, a thîm ym mhob talaith.

'Effeithiau'

Mae'r cwmni yn cael ei ariannu gan Brosiect Grym Fflam, Cyngor Celfyddydau Cymru, y Gronfa Waddol a Choleg Prifysgol y Drindod.

Dywedodd Dugald Mackie, cadeirydd o'r gronfa: "Fe fydd effeithiau'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 nid yn unig yn Llundain ond ar draws y pedair gwlad.

"Mae'r gemau'n gyfle gwych i arddangos Cymru i filiynau o bobl ar draws y byd."

Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru: "Mae'r prosiect yn gyffrous ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y cwmni yn datblygu dros y tair blynedd nesa."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific