British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 25 Mawrth 2010, 11:11 GMT
Dewis UTV i ddarparu newyddion

Dynes yn gwylio teledu
Roeddi tri chwmni wedi gwneud cais am y cytundeb

Mae Wales Live, hynny yw cwmni UTV a Phapurau Newydd Gogledd Cymru, wedi ei ddewis i ddarparu gwasanaeth newyddion newydd yng Nghymru, meddai'r Ysgrifennydd Diwylliant, Ben Bradshaw.

Bydd y gwasanaeth ar ITV yn un o dri chynllun peilot a'r ddau arall yn Yr Alban ac yng Ngogledd Lloegr.

Fe fydd y tri chynllun yn derbyn £47 miliwn oddi wrth Lywodraeth San Steffan am ddwy flynedd.

Mae cwmni Tinopolis o Lanelli yn rhan o'r cais gafodd ei ddewis i ddarparu gwasanaeth newyddion newydd ar ITV yn yr Alban.

Tri chonsortiwm oedd wedi cynnig am y cytundeb yng Nghymru:

  • ITN, ynghyd â chwmniau Newsquest, Northcliffe Media, Tindle, Boomerang a staff newyddion ITV Cymru;
  • Cwmni Tinopolis, Llanelli;
  • Cwmni UTV a chwmni Papurau Newydd Gogledd Cymru.

'Anodd iawn'

Dywedodd cadeirydd y panel dethol, Richard Hooper: "Yn sicr, mae ansawdd y ceisiadau wedi creu argraff arnon ni.

"Roedd angen penderfyniadau anodd iawn ...

"Yn achos Cymru a'r Alban roedd cynigion cryf ar gyfer newyddion cenedlaethol a lleol ac roedden ni wedi gofyn i ymgeiswyr ystyried cynnal y gwasanaethau yn y tymor hir heb arian cyhoeddus.

"Mae brwdrfrydedd y timau a'u hadnoddau wedi creu argraff arnon ni."

Dywedodd Cadeirydd Gweithredol Tinopolis, Ron Jones: "Roedd hwn yn gyfle gwirioneddol i greu gwasanaeth newyddion ar gyfer y ganrif hon, un y byddai pobol Cymru'n falch ohono.

"Er gwaetha'r canlyniad rydyn ni'n ymroddedig i Gymru ...

"Ond rydyn ni ar ben ein digon oherwydd ein cais yn yr Alban gyda chwmni DC Thomson, Grŵp yr Herald a'r Times a Gwasg Johnston."

Mae Mr Bradshaw wedi dweud: "Mae hwn yn gam pwysig tuag at y nod o sicrhau dewis ar gyfer y cyhoedd sy'n gwerthfawrogi newyddion annibynnol o safon uchel.

"Ac mae'r arian ar gael ar gyfer y cynlluniau'n ymroddiad enfawr ar ein rhan ni wrth hybu cynaliadwyedd newyddion yng Nghymru a'r Alban.

Cystadleuaeth

Mae ITV wedi dadlau bod llawer mwy o gystadleuaeth yn y diwydiant ac o ganlyniad mae incwm hysbysebu wedi gostwng.

Fe allai'r rhaglenni cynta gael eu darlledu cyn diwedd y flwyddyn ond mae llawer yn dibynnu ar yr etholiad cyffredinol.

Does dim sicrwydd y bydd y mesur Seneddol yn ddeddf ac os yw'r Ceidwadwyr yn dod i rym, fe allen nhw wrthwynebu'r cynlluniau.



HEFYD
Adolygiad o'r Cyfryngau Cymreig
25 Maw 10 |  Newyddion
Newyddion rhanbarthol ar agenda
03 Chwef 10 |  Newyddion
Newyddion teledu: Tri chais
13 Ion 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific