Y bwriad yw i daclo trais yn erbyn merched
|
Fe fydd £1 miliwn ychwanegol ar gael i daclo pob math o drais yn erbyn merched yng Nghymru. Mae'n strategaeth newydd gan Lywodraeth y Cynulliad. Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Carl Sargeant, bod cyfanswm o £4.4 miliwn yn mynd i gael ei wario eleni i dargedu trais, o ymosodiadau rhywiol i drais yn y cartref. Fe fydd y strategaeth hefyd yn codi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn dynion. Bob blwyddyn mae 20% o ferched Cymru a Lloegr yn diodde trais yn y cartref. Mae tua 2,000 o ferched Cymru a Lloegr yn cael eu treisio bob wythnos. Hawl merched Dywedodd elusen Cymorth i Ferched Cymru bod y strategaeth yma yn "gam ymlaen". Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu gweithio gyda llywodraethau lleol, asiantaethau cyfiawnder ac ar rai materion, Llywodraeth San Steffan, i wella'r ymateb y mae dioddefwyr trais yng Nghymru yn ei gael. "Mae trais yn erbyn merched yn drosedd yn erbyn hawliau merched..." meddai Mr Sargeant. "Mae angen taclo'r anghysondeb yma rhwng dynion a merched. "Rydym wedi symud ymlaen eisoes ond mae angen gwneud llawer mwy a drwy gyd-weithio byddwn yn sicrhau bod merched a'u plant yn ddiogel." Ymhlith y targedau y mae hyfforddiant cenedlaethol i sicrhau bod pobl yn gwybod sut i ddelio gydag effaith trais yn erbyn merched ac effaith posib ar blant. "Rydym yn croesawu addewid y llywodraeth a'u bod yn cydnabod bod angen canllawiau cryfach i awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau i ferched yn unig," meddai Paula Hardy, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru. Mae'r strategaeth hefyd yn codi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn dynion yn seiliedig ar Cynllun Dyn yng Nghaerdydd. "Rydym yn falch bod y gwaith sydd wedi ei wneud a'i ddatblygu dros y pum mlynedd diwethaf yn cael ei gydnabod ac yn mynd i gael ei ehangu," meddai Matthew Bailey, cydlynydd y prosiect.
|