British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Mawrth 2010, 18:26 GMT
Gorsaf bwer: Protest swyddi

Darlun artist o'r orsaf newydd ym Mhenfro
Darlun artist o'r orsaf newydd ym Mhenfro

Cafwyd protest arall mewn gorsaf bŵer sy'n cael ei hadeiladu yn Sir Benfro ddydd Gwener am fod gweithwyr eisiau i swyddi ar y safle gael eu rhoi i weithwyr o Brydain.

Dyma'r drydedd brotest o fewn ychydig wythnosau.

Fe gychwynnodd y gwaith o adeiladu'r orsaf ym mis Mai 2009 a hon fydd yr orsaf fwyaf yng Nghymru pan fydd wedi ei chwblhau.

Yn ôl y protestwyr a wnaeth orymdeithio trwy'r dref cyn cyflwyno deiseb â 4,000 o enwau i'r Aelod Seneddol lleol Nick Ainger, mae mwyafrif y swyddi yn rhan gyntaf y gwaith wedi cael eu rhoi i weithwyr o dramor.

Ond dywedodd y cwmni, Alstom, bod y gweithwyr yn anghywir a bod mwyafrif y staff yn Brydeinig.

'Cyfle teg'

Dywedodd un sydd y tu cefn i'r brotest, Janette Leonard, mam-gu o Aberdâr, nad oedd ganddi unrhyw deyrngarach gwleidyddol nac yn aelod o unrhyw blaid.

"Rydyn ni'n meddwl nad yw'r 2,000 o swyddi yn cael eu rhoi i weithwyr Prydeinig.

"Cyfle teg i gael gwaith - dyna'r cwbl ry' ni'n gofyn amdano.

"Y cwbl ry' ni eisiau yw'r cyfle i ymgeisio am y swyddi hyn".

Mae disgwyl i'r gwaith o godi'r orsaf gymryd tair blynedd a hanner.

Roedd 'na addewid o 2,000 o swyddi.

Cwmni RWE npower fydd yn cynnal yr orsaf.

97.5%

Ar hyn o bryd, yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi gan Alstom ym mis Ionawr i AS Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Nick Ainger, mae 'na 373 o bobl yn gweithio ar y safle, 97.5% yn byw yn y DU.

Mae dros eu hanner yn dod o Gymru a llai na hanner yn byw yn Sir Benfro.

Mae protest dydd Gwener wedi ei threfnu gan grŵp ar wefan Facebook o'r enw Give the British Jobs First at Pembroke Power Station.

Ond mae trefnwyr y rali yn dweud bod yr ystadegau yma yn seiliedig ar gôd post gweithwyr yn hytrach na'u cenedl.

"Dydyn ni ddim yn hiliol nad yn senoffobig," meddai datganiad ar ran y trefnwyr.

"Rydym eisiau synnwyr cyffredin a bod gweithwyr y DU yn cael blaenoriaeth."

Ond yn ôl llefarydd ar ran Alstom: "Fe fyddai yn anghyfreithlon i benodi Prydeiniwr yn hytrach nag un o'r Undeb Ewropeaidd ac fel arall.

"Mae cyfraith cyflogaeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn caniatáu i Brydeinwyr weithio yno ac iddyn nhw weithio yn y DU."



HEFYD
Dechrau codi pwerdy £1bn
08 Mai 09 |  Newyddion
Pwerdy newydd: 2,000 o swyddi?
05 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific