British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 18 Mawrth 2010, 12:45 GMT
Buddsoddiad yn diogelu swyddi

Safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Bydd safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynhyrchu injans ecogyfeillgar

Bydd swyddi crefftus yn cael eu diogelu ar safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi i Lywodraeth San Steffan gefnogi cynllun buddsoddi sy'n para pum mlynedd.

Mae'r Ysgrifennydd Busnes yr Arglwydd Mandelson wedi cytuno cefnogi buddsoddiad Ford gwerth £1.5 biliwn mewn injans ecogyfeillgar.

Ar hyn o bryd mae 2,000 yn gweithio ar safle Ford ym Mhen-y-bont ac mae Llywodreath y Cynulliad hefyd wedi cefnogi'r cynllun buddsoddi.

Fe groesawodd Cadeirydd Ford, Joe Greenwell, y "gefnogaeth bositif".

Dywedodd yr Athro Garel Rhys, Cadeirydd Panel Cynghorol Ymchwil Economaidd Llywodraeth y Cynulliad: "Yr hyn sy'n digwydd nawr yw rhyddhau y £2.3 biliwn wnaeth yr Arglwydd Mandelson sôn amdano ddechrau 2009.

Mae tipyn o aros wedi bod am hyn ac mae'n rhoi rhan flaenllaw i Brydain yn y chwyldro gwyrdd yn y diwydiant moduro
Yr Athro Garel Rhys

"Fe all yr arian wneud lles mawr i'r economi.

"Mae tipyn o aros wedi bod am hyn ac mae'n rhoi rhan flaenllaw i Brydain yn y chwyldro gwyrdd yn y diwydiant moduro."

Ar hyn o bryd mae 25% holl injans Ford ledled y byd a mwy na hanner holl injans diesel Ford yn cael eu cynhyrchu yng ngwledydd Prydain.

Bydd cynlluniau Ford hefyd yn diogelu tua 2,800 o swyddi crefftus yn ei ganolfannau ymchwil yn Dunton, Essex, a'i ffatrïoedd yn Dagenham a Southampton.



HEFYD
Ford: Gwerthu yn 'diogelu swyddi'
26 Maw 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific