British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2010, 17:29 GMT
Chwarel i gau oherwydd diogelwch

Blaenau Ffestiniog
Ar un adeg y diwydiant llechi oedd prif gyflogwr yr ardal

Mae chwarel lechi Oakeley yn Ffestiniog i gau ar ddiwedd mis Ebrill am gyfnod amhenodol.

Dywed y perchnogion, cwmni Welsh Slate, eu bod wedi gwneud y penderfyniad oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.

Yn ôl llefarydd roedd y tir mewn rhai mannau uwchben hen weithfeydd yn ansefydlog.

"Yn dilyn archwiliadau gydag arbenigwyr diogelwch penderfynwyd fod yna ormod o risg," meddai.

Mae'r chwarel yn cyflogi 55.

Bydd tua hanner y gweithwyr yn cael cynnig gwaith yn chwarel arall y cwmni ym Methesda.

Dywed y cwmni eu bod wedi rhoi gwybod i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch am eu penderfyniad.

Yn ôl y llefarydd bydd arolwg o gyflwr yr Oakeley yn cael ei gynnal yn ddiweddarach er mwyn gweld a oes modd ail ddechrau cynhyrchu.

"Rydym yn difaru gorfod cau chwarel Ffestiniog. Ond roedd y rhesymau yma y tu hwnt i reolaeth y gweithwyr a'r cwmni," meddai rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Alan Smith.

"Rwyf am gymryd y cyfle yma i ddiolch i weithwyr Ffestiniog am eu gwaith caled dros y tair blynedd diwethaf."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific