British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2010, 06:49 GMT
Cymru ddwyieithog: 'Gwastraff amser'

Ardal wledig
Ateb yr athro: Creu ardal uniaith yng Ngogledd Orllewin Cymru

Dyw strategaeth ddwyieithog Llywodraeth y Cynulliad ddim yn atal dirywiad yr iaith Gymraeg, yn ôl academydd.

Dyna honiad yr Athro Cymdeithaseg, Christie Davies, yn wreiddiol o Abertawe.

Ar raglen Week In Week Out, sy'n trafod tynged yr iaith yn y cadarnleoedd, mae'n dweud bod angen gweithredu "pellgyrhaeddol" er mwyn achub yr iaith.

"Os bydd y cadarnleoedd yn diflannu, yna bydd diwylliant craidd Cymru'n diflannu."

Gwastraff amser, medd yr athro, yw ceisio creu Cymru ddwyieithog - byddai'n fwy buddiol gwario arian ar greu ardal uniaith yng Ngogledd-Orllewin Cymru.

'Camau positif'

Alun Ffred Jones
Pe bai hyn yn fater syml o roi arian yn y twll a chael canlyniad mi fydden ni wedi gwneud hynny erbyn hyn
Alun Ffred Jones A.C.

Gweinidog Treftadaeth

Ar y rhaglen mae'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, yn derbyn bod y cadarnleoedd yn "lleihau" ond yr un pryd mae'n mynnu nad oes yna atebion syml.

"Dwi'n credu y gallwn ni ddiweddaru ein syniadau a gweld pa gamau positif eraill y gallwn eu cymryd i sicrhau bod y dirywiad yn cael ei atal.

"Ond pe bai hyn yn fater syml o roi arian yn y twll a chael canlyniad mi fydden ni wedi gwneud hynny erbyn hyn."

Fe edrychodd Week in Week Out yn fanwl ar sefyllfa'r iaith 20 mlynedd yn ôl wrth ganolbwyntio ar bentref Llangeitho yng Ngheredigion a holi'r academwyr Harold Carter a John Aitchison.

Y tro hwnnw roedd y proffwydoliaethau am ddyfodol y cymunedau Cymraeg yn besimistaidd.

Yn y rhaglen nos Fawrth mae'r gohebydd Phil Parry yn dychwelyd i Langeitho i asesu'r sefyllfa 20 mlynedd yn ddiweddarach.

Week in Week Out, BBC 1 Cymru, nos Fawrth, Mawrth 16, 10.35pm.



HEFYD
Pwerau newydd i Fae Caerdydd
11 Chwef 10 |  Newyddion
Pwerau iaith 'o fewn wythnos'
04 Chwef 10 |  Newyddion
Methu gyda chynllun iaith
15 Ion 10 |  Newyddion
Strategaeth iaith newydd
13 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific