Bydd y ganolfan newydd yn cyflogi 200
|
Mae disgwyl i fwy na 200 o swyddi gael eu creu yn Abertawe yn ystod y ddwy flynedd nesaf wrth i gwmni Virgin Atlantic agor canolfan gwasanaethu cwsmeriaid yn y ddinas. Bydd y ganolfan yn Nhŷ Alexandra yn delio â galwadau o America a gwledydd Prydain. Mae disgwyl i'r cwmni ddechrau recriwtio ddiwedd y mis. Mae'r Cynghorydd John Miles wedi dweud: "Yn anffodus, mae 'na lawer o swyddi wedi eu colli oherwydd bod yr hen weithie wedi cau. "Y broblem o'dd nad o'n ni wedi ca'l swyddi sy'n talu'n dda yn eu lle nhw." Yn raddol, meddai, roedd mwy a mwy o ganolfan alwadau yn dod i'r ddinas. "Yn yr hen ddyddie os o'dd rhywun yn colli ei waith o'dd e'n gorfod llafurio ond mae'r swyddi newydd hyn yn gyfle ar gyfer y rhai sy'n gadel ysgol." 'Gwych' Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, fod cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn hanfodol ac y byddai'r penderfyniad yn hwb i'r economi leol. "Virgin Atlantic yw un o gwmnïau awyrennau mwyaf y byd ac mae'n newyddion gwych fod y math yma o fusnes yn cael ei ddenu i Gymru." Dywedodd y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi'r cwmni er mwyn sicrhau'r llwyddiant mwya posib. Mae gan y cwmni 38 o awyrennau yn gwasanaethu meysydd awyr Heathrow a Gatwick ac yn hedfan i 30 o wahanol lefydd yn y byd. Dywedodd Swyddog Ariannol a Masnachol y cwmni, Julie Southern: "Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi hyn, yn enwedig o gofio mai ychydig o gwmnïoedd sy'n cyhoeddi bod swyddi'n cael eu creu. "Mae 'na lawer o staff profiadol yn y ddinas ac rydyn ni'n edrych ymlaen at elwa ar eu sgiliau gwerthfawr." Yn y cyfamser, fe fydd 85 o swyddi newydd yn cael eu creu mewn cwmni atgyweirio llongau. £4m Dywedodd llefarydd ar ran Swansea Drydocks y bydden nhw'n buddsoddi mwy na £4m yn y prosiect. "Rydyn ni'n bwriadu buddsoddi mewn atgyweirio, cynnal a chadw ac ailgylchu. "O'r blaen roedd sawl cwmni'n gweithredu yn y doc sych ond ers 10 mlynedd mae'r farchnad wedi lleihau ... "Rydyn ni'n gwneud hyn nid yn unig am ein bod ni am adeiladu ar hen draddodiad yn Abertawe ond oherwydd galw am waith ecogyfeiilgar." Fe fydd y gwaith yn dechrau eleni.
|