British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 15 Mawrth 2010, 08:51 GMT
Ail fesur uchder mynydd

Tryfan
Mae Tryfan yn un o 15 pegwn sy dros 3,000 o droedfeddi

Fe all un o fynyddoedd amlycaf Cymru fod yn is na'r disgwyl.

Bydd tîm o arbenigwyr yn defnyddio technoleg fodern yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn ail fesur Mynydd Tryfan yng Nghwm Ogwen.

Ar hyn o bryd y gred yw bod y mynydd yn 3,002 troedfedd (915 metr) o uchder, ac yn un o 15 mynydd yng Nghymru sy'n uwch na 3,000 troedfedd.

Yn ôl John Barnard, un o'r arbenigwyr fydd yn ail fesur, mae'n bosib bod y mesur presennol hyd at dri metr yn uwch neu'n is na'r maint go iawn.

"Gyda thechnoleg fe allwn fesur pethau yn hynod fanwl, o fewn centimetr.

Dywed Alun Pugh, cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, y bydd Tryfan yn parhau'n fynydd eiconig, beth bynnag ei uchder.

"Rwy'n credu y bydd cerddwyr a dringwyr yn parhau i fwynhau'r mynydd.

"Mae'r golygfeydd yn ardderchog wrth ddringo'r ochr ddwyreiniol neu wrth gerdded i'r copa o'r de."

Bydd y mynydd yn cael ei ail fesur ym Mehefin.

Yn ôl y canllawiau, mae gofyn i fynydd yng Nghymru fesur 2,000 o droedfeddi neu uwch.

Bydd Tryfan yn parhau i gael ei alw'n fynydd ond fe allai golli ei statws fel un o'r 15 copa yng Nghymru sy'n uwch na 3,000 troedfedd.



HEFYD
Mwy o lwybrau Eryri yn ailagor
08 Mai 01 |  Newyddion
Achub dyn o Eryri
10 Gorff 06 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific