Dysgu drwy chwarae y mae'r plant o dan y cynllun
|
Mae penaethiaid ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn rhybuddio nad oes 'na ddigon o arian i weithredu'r Cyfnod Sylfaen. Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar gyflogi mwy o gynorthwywyr dosbarth i weithio gyda grwpiau bychain o blant. Wrth edrych nôl ar ei gyfnod fel Prif Weinidog fe ddywedodd Rhodri Morgan mai'r hyn yr oedd e fwyaf balch ohono oedd cyflwyno'r cyfnod sylfaen. Nawr, yng Nghaerdydd o leiaf, mae 'na bryder nad oes modd parhau i weithredu'r cynllun. Mae'r cyfnod sylfaen yn rhoi pwyslais ar ddysgu drwy chwarae ac mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar gyflogi mwy o athrawon neu gynorthwywyr dosbarth. Mae hynny'n gostus ac mae penaethiaid ysgolion Caerdydd yn dweud eu bod nhw'n brin o £350,000 i weithredu'r cynllun y flwyddyn nesa. Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n rhwystredig ac yn siomedig nad oes digon o arian ar gael. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud bod yna £76m ar gael i weithredu'r cynllun yn 2010/11 a'u bod nhw wedi cytuno ar y swm hwnnw gydag awdurdodau addysg a'r gymdeithas llywodraeth leol. Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth mai cyfrifoldeb yr ysgolion a'r awdurdodau lleol oedd gwneud y defnydd gorau o'r arian sydd ar gael.
|