British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Mawrth 2010, 06:44 GMT
Cofio 60 mlynedd ers trychineb awyr ym Mro Morgannwg

Teithwyr a chriw'r awyren cyn y ddamwain yn 1950 (Llun: Amgueddfa Heddlu De Cymru )
Cafodd 80 o bobl eu lladd wedi i'r awyren fod mewn damwain ym Mro Morgannwg

Mae cefnogwyr rygbi a'u teuluoedd yn cael eu cofio wedi un o drychinebau awyr mwya'r byd 60 mlynedd yn ôl.

Ar Fawrth 12, 1950, cafodd 80 o bobl eu lladd yn Nhrychineb Awyr Llandŵ ym Mro Morgannwg.

Gweddillion yr awyren
Roedd chwaraewyr clybiau rygbi ar yr awyren

Roedd y mwyafrif yn gefnogwyr Cymru oedd yn dathlu ar ôl ennill y Goron Driphlyg yn erbyn Iwerddon.

Tri o bobl wnaeth oroesi wrth i'r awyren Avro Tudor V gyrraedd y cyn-safle Llu Awyr a chollodd clybiau rygbi Abercarn, Rhisga a Llanharan eu chwaraewyr.

Yr unig un sy'n dal yn fyw yw Mel Thomas, 84 oed, sy'n byw yn Llanharan ger Llantrisant.

Anymwybodol

"Fe golles i saith ffrind yn y ddamwain," meddai Mel oedd yn chwarae rygbi i'r pentref.

"Roeddwn i yn y tŷ bach pan ddigwyddodd y ddamwain a dyna sut wnes i oroesi.

"Fe ges i fy anafu a threulio pedwar mis yn yr ysbyty yn Sain Tathan.

Damwain Awyr Llandw ger Sigginstone yn 1950
Tri o bobl yn unig wnaeth oroesi

"Dwi ddim yn cofio dim a dweud y gwir, o'n i'n anymwybodol."

Roedd Cymru newydd ennill y Goron Driphlyg am y tro cyntaf mewn 39 mlynedd a'r teithwyr ar eu ffordd yn ôl o Ddulyn.

Hen awyren oedd wedi ei defnyddio yn yr Ail Ryfel Byd oedd yn cario'r 78 o deithwyr a phum aelod o'r criw.

Wrth gyrraedd Llandŵ roedd yn hedfan yn isel a glaniodd lathenni o dai yn Sigginstone. Fe gafodd pob un o'r criw eu lladd.

Y ddau arall wnaeth oroesi oedd Handel Rogers ddaeth yn Llywydd Undeb Rygbi Cymru a'i frawd yng nghyfraith, Gwyn Anthony.

Llygad dyst

Roedd y tri yng nghefn yr awyren lle oedd seddi ychwanegol wedi eu bolltio i'r llawr.

Ar flaen papur newydd The Times o'r cyfnod roedd yr hanes ar y dudalen flaen.

Golygfa o'r awyr o'r ddamwain
Glaniodd yr awyren lathenni o dai

Dywedodd llygad dyst fod yr awyren yn teithio mor isel fel ei fod yn credu y byddai'n cael ei daro.

"Fe wnes i a fy nau frawd redeg i guddio ... yn sydyn fe wnaeth sŵn yr injan ddod i stop cyn aildechrau ac fe gododd yr awyren ychydig cyn glanio, y trwyn i ddechrau," meddai Selwyn Newman wrth ohebwyr.

Fe gafodd teuluoedd y rhai a laddwyd neges oddi wrth y Brenin Siôr VI ac o fewn deuddydd fe gyhoeddodd y llywodraeth y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y ddamwain.

Ond dyw gwir achos y ddamwain ddim wedi cael ei ddatgelu.

Mae bathodynnau clybiau rygbi Abercarn a Llanharan yn cofio'r trychineb ac mae plac yng nghlwb rygbi Rhisga.

Ac fe wnaeth Mr Thomas a Mr Rogers ddadorchuddio cofeb arbennig yn Sigginstone yn 1990.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific