British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Mawrth 2010, 13:15 GMT
Bwletin Ysgol y BBC

Diwrnod Bwletin Ysgol y BBC

Mae'r cyn-bêldroediwr rhyngwladol John Hartson a'r newyddiadurwr Huw Edwards wedi cael eu holi gan ddisgyblion ysgol fel rhan o brosiect Bwletin Ysgol y BBC.

Bu disgyblion Ysgol Syr Huw Owen yng Nghaernarfon yn dilyn stori am ganolfan gyffuriau yn ogystal â holi cyflwynydd rhaglen newyddion y BBC am 10pm tra bod disgyblion Ysgol Gŵyr ger Abertawe yn holi'r cyn-ddigybl John Hartson.

Mae ysgolion yng Nghymru a gweddill Prydain wedi bod yn cymryd rhan hefyd ar Ddiwrnod Bwletin Ysgol y BBC ddydd Iau.

Nod y cynllun yw rhoi cyfle i ddisgyblion ysgolion uwchradd fentro i faes newyddiaduraeth.

Mae'r disgyblion wedi bod yn holi a stilio, yn creu bwletinau newyddion ar gyfer y teledu, radio neu'r we.

Cafodd eu gwaith eu gweld ar wefan eu hysgolion ddydd Iau.



HEFYD
'Newyddion da' i Hartson
04 Rhag 09 |  Newyddion
Hartson: "Anwybyddu arwyddion"
12 Awst 09 |  Newyddion
Hartson: Canser yn lledu i'w ysgyfaint
15 Gorff 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific