British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010, 20:11 GMT
Cwyn Cymdeithas at y Prif Weinidog am y mesur iaith

Un o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal sawl protest yn galw am ddeddf iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon cwyn swyddogol at Brif Weinidog Cymru ynglŷn â'r mesur iaith.

Cafodd y mesur iaith ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Cynulliad yr wythnos diwethaf.

Yn y llythyr mae'r ymgyrchwyr yn cyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o "gamarwain y cyhoedd" wrth ddweud y byddai'r mesur yn cadarnhau statws swyddogol i'r Gymraeg.

Mae'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi dweud y bydd y mesur "... yn ateb galw'r siaradwyr Cymraeg i gael yr hawl i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg ..."

Fe fydd y mesur yn golygu creu swydd Comisiynydd Iaith ac mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar rai cyrff i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg a chadarnhau statws swyddogol i'r iaith.

Mae'r gymdeithas yn honni bod Llywodraeth y Cynulliad wedi "camarwain y cyhoedd" wrth hawlio bod y mesur yn "arwain at hawliau i wasanaethau Cymraeg a chadarnhau statws swyddogol i'r Gymraeg".

Dim statws swyddogol

Maen nhw'n dweud bod addewid Cymru'n Un, Cytundeb rhwng Grŵp Llafur a Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, lle mae'n nodi creu "statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg, hawliau ieithyddol ...", yn cael ei dorri gan y mesur newydd.

"Mae ein haelodau'n gandryll gyda'r llywodraeth oherwydd ei bod hi wedi torri ei haddewidion a thrio camarwain y cyhoedd wrth ddefnyddio rhethreg hawliau," meddai Cadeirydd y Gymdeithas Menna Machreth.

"Does dim hawliau, na statws swyddogol i'r Gymraeg yn y mesur.

"Yr unig hawl sydd yn y mesur yw'r hawl i gyrff a chwmnïau herio unrhyw ofyniad i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae'n gwbl warthus."

Ychwanegodd bod y mesur yn sefydlu Comisiynydd "a fydd o dan fawd llywodraeth y dydd".

"Gallai'r gwendidau enfawr hyn yn y mesur.... olygu bod y sefyllfa yn waeth nawr nac ar ôl Deddf Iaith 1993."

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud eu bod yn bwriadu ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau a sefydlu eu Comisiynydd Iaith eu hunain.



HEFYD
Mesur 'yn cadarnhau statws iaith'
04 Maw 10 |  Newyddion
Megis cychwyn mae'r dadlau?
05 Maw 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific