British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 8 Mawrth 2010, 12:39 GMT
Llyfrgell i ailagor ei drysau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Bydd y llyfrgell ar agor ar ddydd Sadwrn o Fai 8 2010

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn ailagor i'r cyhoedd ar y Sadwrn o Fai 8 ymlaen.

Bu'r adeilad ar gau ar y Sadyrnau ers 1 Ebrill 2009 'yn wyneb gwasgfa ariannol' fel rhan o fesurau i arbed £250,000 yn y flwyddyn ariannol hon.

Ond mae'r gwasanaeth newydd yn llawer mwy cyfyngedig nag y bu cyn 1 Ebrill 2009, ac felly yn rhatach i'w ddarparu.

Bydd rhaid i ddarllenwyr archebu eu deunydd ymlaen llaw ac ni fydd yr arlwy arferol ym mwyty Pen Dinas.

Bydd y casgliadau ar gael o'r ddwy ystafell ddarllen a bydd yr arddangosfeydd, y siop, y bwyty a'r stafelloedd cyfarfod ar gael.

'Ail-ystyried'

Dywedodd Llywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley: "Cafwyd llawer iawn o gefnogaeth gan y cyhoedd yn galw arnom i ail-ystyried ac ail-agor ac yn galw ar y Cynulliad i roi blaenoriaeth i gynnal cyllid y Llyfrgell.

"Roedd ailagor yn flaenoriaeth gennym ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth y Cynulliad, rydym wedi llwyddo i wneud arbedion ac ail-strwythuro fel ein bod bellach mewn sefyllfa i gynnig gwasanaeth i ddarllenwyr, twristiaid a phobl leol".

Ychwanegodd Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: "Bu'r penderfyniad i gau ar ddydd Sadwrn am resymau economaidd yn un eithriadol o anodd i'r Llyfrgell Genedlaethol.

"Rydym yn edrych ymlaen at gynnig gwasanaeth a chroeso cynnes unwaith eto o 8 Mai 2010 ymlaen."



HEFYD
Golwg ar wynebau 'eiconig'
13 Chwef 10 |  Newyddion
Mwy o enwau i'r bywgraffiadur
09 Ion 10 |  Newyddion
Arddangos lluniau da Vinci
07 Tach 08 |  Newyddion
Arddangosfa: Nodi carreg filltir
19 Maw 07 |  Newyddion
'Gwyl goll' wedi ei darganfod
13 Gorff 08 |  Newyddion
Llyfrgell yn storio tudalennau gwe
20 Tach 03 |  Newyddion
Llyfrgell: 'Dim newid statws'
10 Hyd 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific