British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Mawrth 2010, 08:31 GMT
Capel: Gobaith perchnogion

Derek Ford, Margaret Ford a maer Rhondda Cynon Taf, y cynghorydd Robert Smith
Mae'r perchnogion am adnewyddu'r capel

Mae perchnogion capel "ag arwyddocad hanesyddol" yn y Rhondda am i'r adeilad fod yn ganolbwynt i'r gymuned unwaith eto.

Mae Capel Annibynnol y Cymer, Porth wedi cael plac glas fel rhan o 'lwybr treftadaeth' sy'n son am enwogion, digwyddiadau a cherrig milltir y sir.

Mae'r perchnogion am adnewyddu'r capel a'i ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau cymunedol.

'Y gymuned'

Dywedodd y Fonesig Margaret Ford, a brynodd yr adeilad wyth mlynedd yn ôl gyda'i gŵr Derek: "Mae Capel Annibynnol y Cymer yma ar gyfer y gymuned.

"Nid ein capel ni ydyw. Yn hytrach mae e yma ar gyfer y trigolion.

"Unwaith i ni lwyddo i'w adnewyddu rydym am weld côr yn ôl yn yr adeilad a digwyddiadau a chymdeithasau a fydd yn helpu i ddod â'r gymuned at ei gilydd."

Dyma'r Capel Annibynnol cynharaf a adeiladwyd yng Nghwm Rhondda, a benododd ei weinidog cyntaf ym 1752.

Cafodd ei ddisgrifio fel Yr Hen Gapel yn ddiweddarach ac mae'n debyg iddo fod o gymorth yn hanes sefydlu nifer o eglwysi eraill yn yr ardal.

Mae Evan Roberts, un o arweinwyr Diwygiad 1904-05, ymhlith y llu o bregethwyr a fu yno.

Cafodd cyngor Rhondda Cynon Taf £49,200 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri at osod placiau gleision i goffáu eiconau, digwyddiadau ac adeiladau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific