Dyma fydd y ddeddf fwyaf cymhleth ar y Gymraeg hyd yn hyn
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi mesur newydd yr iaith Gymraeg ar ôl dwy flynedd o drafod a dadlau.
Fe fydd yn golygu creu swydd Comisiynydd Iaith ac mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar rai cyrff i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg a chadarnhau statws swyddogol i'r iaith.
Mae ymgyrchwyr wedi dweud nad yw'r pwerau'n ddigonol i sicrhau'r hawliau ieithyddol sydd eu gwir angen.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y mesur yn "gam pwysig a hanesyddol" o ran cryfhau'r iaith Gymraeg ers deddf 1993.
"Mae'r mesur yn ein darparu â rhai o'r arfau yr ydym eu hangen i sicrhau y gall yr iaith Gymraeg barhau i ffynnu yn y ganrif hon ..."
Hon yw'r ddeddf fwyaf cymhleth ar y Gymraeg hyd yn hyn.
Mae'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi dweud y bydd y mesur "... yn ateb galw'r siaradwyr Cymraeg i gael yr hawl i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg ..."
Cosbi
Fe fydd y Comisiynydd Iaith yn gallu cosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat os ydyn nhw'n torri eu hymrwymiad i'r iaith.
Mae disgwyl y bydd hyn yn effeithio ar gwmnïau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus fel nwy, trydan a ffôn.
Bwrdd yr Iaith Gymraeg sy'n gyfrifol am ddiogelu a hybu defnydd o'r iaith ar hyn o bryd.
Fe fydd y comisiynydd yn gyfrifol am nifer os nad mwyafrif y cyfrifoldebau.
Mae disgwyl y bydd y comisiynydd yn gosod safonau ieithyddol ac yn plismona'r safonau.
Dywedodd Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Nid yw'r mesur yn effeithio ar y sector preifat rhyw lawer.
'Siopau'
"Nid oes gan y cynulliad y pwerau i gynnwys siopau yn y mesur hwn ac, os ydym am weld yr iaith Gymraeg fel iaith fyw, rwy'n credu y dylid tynnu'r sector preifat i mewn hefyd.
"Ond y peth pwysig yw y dylai'r cynulliad gadw ei addewid i ddarparu hawliau er mwyn i bobl ddefnyddio a gweld yr iaith Gymraeg o ddydd i ddydd."
Dywedodd cadeirydd Bwrdd yr Iaith, Meri Huws: "Mae'n rhyfeddol faint mae tirlun ieithyddol y wlad wedi newid yn y deunaw mlynedd diwethaf, gyda'r Gymraeg bellach i'w gweld o'n hamgylch ym mhobman, o Gaergybi i Gasnewydd.
"Mae hi nawr yn bryd camu ymlaen gan adeiladu ar lwyddiant Deddf 1993 a holl waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
"Rwy'n mawr obeithio y bydd y Mesur hwn, yn enwedig o ran creu Comisiynydd sydd â mwy o bwerau nag sydd gan y Bwrdd, yn sicrhau y bydd gan siaradwyr Cymraeg lawer mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd yn y dyfodol."
'Cefnogi'r iaith'
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones mae'r mesur yn garreg filltir bwysig yn hanes yr iaith.
Bydd yn gwneud gwahaniaeth bob dydd i bobl sy'n defnyddio'r iaith, meddai.
Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr iaith, Paul Davies AC: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i gefnogi'r iaith.
"Mae angen astudio'r darn arwyddocaol hwn o ddeddfwriaeth yn ofalus a dwi'n edrych ymlaen at holi'r gweinidog am gynigion y llywodraeth cyn gynted â phosib".
Croeso gofalus gafodd y mesur gan Eleanor Burnham o'r Democratiaid Rhyddfrydol.
"Ond mae'n rhy hir, yn glogyrnaidd ac ychydig yn llipa," meddai.
Roedd hi'n dweud fod yna ormod o bwyslais ar 'gyfrifoldebau' yn hytrach nag ar 'hawliau'.
Dywedodd ei bod yn poeni am y posibilrwydd y bydd Bwrdd yr Iaith yn cael ei ddirwyn i ben.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.