British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Mawrth 2010, 20:13 GMT
Teyrngedau i Michael Foot

Michael Foot gyda Neil Kinnock a James Callaghan yn  2000
Michael Foot gyda Neil Kinnock a'r diweddar James Callaghan yn 2000

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-arweinydd Y Blaid Lafur Michael Foot, a chyn-Aelod Seneddol Glyn Ebwy, fu farw yn 96 oed.

Bu farw toc cyn 7am yn ei gartref yn Hampstead, Llundain. Roedd wedi bod yn wael ers peth amser ac yn derbyn gofal 24 awr.

Cafodd ei ddisgrifio fel "gwir gawr" gan Brif Weinidog Cymru ac arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, Carwyn Jones.

Dywedodd Rhodri Morgan, cyn-brif weinidog Cymru, ei fod yn "gymeriad unigryw".

Fe wnaeth Mr Foot olynnu Aneurin Bevan fel Aelod Seneddol Glyn Ebwy yn 1960.

Yn 1980 cafodd ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur gan olynu AS Caerdydd, Jim Callaghan.

Dyn o egwyddorion

Ond wedi etholiad 1983 fe wnaeth ildio'r awenau i Neil Kinnock ond fe wnaeth aros yn AS tan 1992.

Er yn frodor o Plymouth roedd yn ffigwr amlwg yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Wrth ymateb i'r newyddion am ei farwolaeth dywedodd Carwyn Jones ddydd Mercher bod hyn yn "newyddion trist iawn".

"Roedd yn gawr o fewn y Blaid Lafur a Phrydain yn gyffredinol.

Michael Foot
Cafodd ei ddisgrifio fel Cymro mabwysiedig

"Bu'n dal nifer o brif swyddi yn y cabinet ac wrth gwrs roedd yn AS Glyn Ebwy ac yna Blaenau Gwent am ddegawdau.

"Fe fydd 'na golled ar ei ôl."

Dywedodd y Prif Weinidog Gordon Brown: "Roedd Michael Foot yn ddyn o egwyddorion dwfn ac yn un o'r siaradwyr mwya huawdl gafodd Prydain erioed.

"Roedd yn ffigwr anorchfygol oedd yn barod i gadw at ei farn hyd yn oed os nad oedd pobl yn cytuno gyda fo."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, bod marwolaeth Mr Foot yn "golled i ddiwylliant gwleidyddol Cymru".

"Roedd yn ddyn o egwyddorion ac yn Seneddwr arbennig oedd yn ennyn parch ar draws y gwahanol bleidiau.

"Roedd yn fraint ac yn anrhydedd i mi ei adnabod a gwasanaethu'r un pryd â fo yn San Steffan lle dysgais lawer oddi wrth ei wybodaeth a'i brofiad a'i ymroddiad i gyfiawnder cymdeithasol."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, mai Michael Foot oedd "mab mabwysiedig gorau Cymru".

"Yn ffrind arbennig, cefais lawer o gefnogaeth ganddo am 40 mlynedd.

Cymeriad unigryw

"Bydd colled aruthrol ar ei ôl....fydd neb tebyg iddo.

"Mae Cymru a Llafur Cymru yn galaru heddiw."

Dywedodd cyn-brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, bod Mr Foot yn "gymeriad unigryw yn Senedd Prydain ac yn y system wleidyddol".

"Roedd yn cael ei gydnabod yn hoffus iawn yng Nghymru a thrwy Brydain gan ei gefnogwyr a'i wrthwynebwyr."

Ychwanegodd Paul Murphy, AS Torfaen a chyn Ysgrifennydd Cymru a Gogledd Iwerddon, bod Mr Foot yn un o'r "sosialwyr gorau".

"Roedd ganddo ddealltwriaeth arbennig o bobl y Cymoedd ac roedd yn falch ei fod yn Gymro mabwysiedig."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne: "Roedd Michael Foot yn seneddwr o fri.

"Fe wnaeth gyfraniad arwyddocaol i fywyd cyhoeddus ym Mhrydain".



HEFYD
Michael Foot wedi marw
03 Maw 10 |  Newyddion
Dathliadau pen-blwydd i Foot
23 Gorff 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific