British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Mawrth 2010, 10:30 GMT
Cau Pafiliwn Corwen oherwydd pryderon diogelwch

Pafiliwn Corwen
Cafodd yr Eisteddfod yr Urdd cyntaf ei gynnal yn y Pafiliwn

Mae hi'n ddiwedd cyfnod ar un o ganolfannau diwylliannol amlycaf Cymru.

Am resymau diogelwch mae Pafiliwn Corwen wedi gorfod cau.

Yn ogystal â chynnal yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yno mae'r Pafiliwn wedi cynnal eisteddfodau a gwyliau cerddorol o bob math.

Mae'r Pafiliwn hefyd yn cael ei gysylltu gyda ffyniant y sin roc Gymraeg.

Yn y 1970au a'r 1980au roedd y Pafiliwn yn ganolbwynt i noson wobrwyo Sgrech! ac mae pobl hyd heddiw yn dal i siarad am noson gofiadwy yno yn ystod Eisteddfod Rhuthun yn 1973.

Y flwyddyn honno fe wnaeth Edward H Dafis roi sbardun go iawn i'r sin roc gan godi'r to yn ystod noson Tafodau Tân.

Problemau

Oherwydd pryderon am asbestos y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gorfod gwneud y penderfyniad i gau'r Pafiliwn.

"Gyda thristwch yr ydym yn gorfod cau'r Pafiliwn oherwydd ei gyflwr," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans, bod problemau'r adeilad wedi pentyrru.

"Mae hyn yn newyddion trist iawn, nid yn unig i bobl Corwen ond i Sir Ddinbych hefyd," meddai.

"Yn anffodus does ganddo ni ddim dewis ond cymryd y cam llym yma."

Dywedodd y cyngor bod ymchwiliad rhagarweiniol ar gyfer gwaith ailwampio gan syrfewyr wedi dangos "nam trydanol sylweddol" drwy'r adeilad a allai arwain at risg sylweddol i unrhyw berson.

Symud digwyddiadau

Fe wnaeth archwiliad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ganfod nifer o broblemau diogelwch tân yn yr adeilad.

Eglurodd Jamie Groves, pennaeth hamdden a gwasanaethau ieuenctid y cyngor, bod y newyddion yma yn "siomedig" ac yn gam sylweddol yn ôl.

"Roeddem wedi codi arian ar gyfer ei fuddsoddi yn yr adeilad, ond o ganlyniad i ymchwiliadau dydi'r adeilad ddim yn ddiogel bellach ar gyfer ei ddefnydd.

"Rydym yn gobeithio symud y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar gyfer cael eu cynnal yno i lefydd eraill mor fuan â phosib.



HEFYD
Asbestos: Ail agor pafiliwn
15 Chwef 10 |  Newyddion
Asbestos: Pafiliwn yn cau
12 Chwef 10 |  Newyddion
Cynlluniau i ddatblygu pafiliwn
05 Medi 03 |  Newyddion
Ffrae dyfodol Pafiliwn Corwen
08 Hyd 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific