British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Mawrth 2010, 08:10 GMT
Galw am gofeb i 'Brif Weinidog Answyddogol Cymru'

Dafydd Evans
BBC Cymru

Huw T Edwards
Mae 'na alw i godi cofeb i Huw T Edwards yn Sir y Fflint

Mae rhai o drigolion Sir y Fflint yn awyddus i greu cofeb i ŵr sy'n cael ei ystyried yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru y ganrif ddiwethaf.

Cafodd Huw T Edwards y llysenw 'Prif Weinidog Answyddogol Cymru' yn ystod y 1950au fel Cadeirydd Cyngor Cymru a Mynwy.

Er ei fod yn ffigwr amlwg ar lefel genedlaethol, bu'n byw yn Sychdyn ger Yr Wyddgrug a gweithio am y rhan fwyaf o'i oes yn Sir y Fflint.

Nawr mae 'na alw am gofeb yn yr ardal i gydnabod ei gyfraniad i fywyd a Chymreictod y fro.

'Arloeswr'

Roedd Huw T Edwards yn un o wleidyddion blaenllaw hen Gyngor Sir y Fflint yn ystod cyfnod o arloesi ym maes addysg Gymraeg - pan agorwyd Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy ac yna Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug.

"Fo, fel arweinydd Cyngor Sir y Fflint, a'r Dr Haydn Williams oedd y ddau a arweiniodd y mudiad ysgolion Cymraeg yn Sir y Fflint a thrwy Gymru," meddai Iwan Jones sy'n byw yn Yr Wyddgrug.

Roedd Huw T Edwards yn un o'r dynion pwysicaf yn hanes gwleidyddol Cymru yn yr 20fed Ganrif
Gwyn Jenkins, bywgraffydd Huw T Edwards

"Mi gafodd y mwyafrif o gynghorwyr Sir y Fflint i'w gefnogi i gael addysg Gymraeg ac mae hynny'n dipyn o beth dybiwn i.

"Yma y gwnaeth o'r gwaith mawr.

"Fe ddaeth o'n enwog yn genedlaethol ac yn Sir y Fflint...yn ymladdwr glew dros y Pethe. Gwerinwr â digon o allu a digon o ysbrydoliaeth a gweledigaeth."

Cafodd Huw T Edwards ei eni yn Rowen yn Nyffryn Conwy yn 1892.

Aeth i weithio yn ifanc i'r chwarel ym Mhenmaenmawr cyn symud i'r pyllau glo yn y Rhondda.

Undebwr Llafur

Dychwelodd i'r gogledd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf gan helpu i sefydlu canghennau o Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol (TGWU) a'r Blaid Lafur.

Symudodd i Shotton yn y 1930au ar ôl cael ei benodi'n swyddog gyda'r TGWU.

Cofeb Huw T Edwards
Mae cofeb i Huw T Edwards yn ei bentre genedigol, Rowen

Daeth yn ffigwr dylanwadol y mudiad Llafur ac yn 1949 cafodd ei benodi gan y Llywodraeth Lafur yn Gadeirydd Cyngor Cymru a Mynwy - y corff oedd yn cynghori Llywodraeth Prydain cyn sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1964.

Fe wasanaethodd ar nifer o gyrff eraill gan gynnwys Bwrdd Croeso Cymru, cwmni teledu TWW a bu'n berchennog ar Y Faner a'i chynnal am rai blynyddoedd.

"Roedd Huw T Edwards yn un o'r dynion pwysicaf yn hanes gwleidyddol Cymru yn yr 20fed Ganrif," dywedodd Gwyn Jenkins, bywgraffydd Huw T Edwards.

"Roedd ei arweiniad...yn bwysig wrth i Gymru ddechrau ar y daith o ddatganoli.

"Fe oedd Cadeirydd Cyngor Cymru ac o ganlyniad i adroddiad pwysig yn y cyfnod hwnnw fe gafwyd mesur eithaf sylweddol o ddatganoli trwy sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol yn 1964."

Cofeb

Mae Iwan Jones yn un o nifer yn Sir y Flint sydd nawr yn galw am ryw fath o gofeb i Huw T Edwards.

"Mi ddyle ni fod wedi gwneud yn gynt.

"Mae gan Daniel Owen...garreg goffa lle'r oedd ei fan geni, amgueddfa a chofgolofn.

"Does gan y dyn yma ddim byd...'Da' ni ar fai.

"Mae eisiau mwy o dân y tu ôl i'r alwad.

"A gweledigaeth beth i'w wneud. Fydd rhaid i ni feddwl reit ddwys am hynny."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific