Fe ddaeth y gwaith yn Aliwminiwm Môn i ben ym mis Medi
|
Wrth i bwyllgor o aelodau seneddol o Gymru alw ar Lywodraeth San Steffan i ymateb i'r "angen brys am garchar yn y gogledd" mae rhestr o safleoedd posib yn y gogledd wedi cael eu cyhoeddi. Ymhlith y safleoedd sydd ar y rhestr fydd yn cael ei ystyried gan Wasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol, y mae ffatri Aliwminiwm Môn ger Caergybi. Yn ogystal ag aelodau Pwyllgor Materion Cymreig mae'r Gwasanaeth Carchardai yn galw am "flaenoriaethu" y gogledd ar gyfer carchar. Ym mis Medi 2009 penderfynodd y Gweinidog Cyfiawnder, Maria Eagle, nad oedd hen safle ffatri Dynamex ger Caernarfon yn addas ar gyfer carchar. Blaenoriaeth Mae adroddiad gan yr ASau, gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher, yn beirniadu'r penderfyniad i chwilio am safleoedd yn Lloegr. Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod safleoedd yng ngogledd Cymru, Llundain, gogledd orllewin Lloegr a Gorllewin Sir Efrog o dan ystyriaeth.
Cynnig gwreiddiol: Cyn-safle Ferodo ger Caernarfon
|
Y pryder yw y byddai hynny'n golygu na fyddai carchar yn cael ei godi yng ngogledd Cymru. "Dylid rhoi blaenoriaeth i ddod o hyd i safle yng ngogledd Cymru," medd yr adroddiad. "Mae angen i Swyddfa Cymru, Llywodraeth y Cynulliad, llywodraeth leol ac aelodau seneddol lleol ddod o hyd i safleoedd addas yn y gogledd. Fe ddaeth gwaith o gynhyrchu aliwminiwm ar y safle i ben ym mis Medi gyda bron i 400 o bobl yn colli eu gwaith. Y pum safle arall yn y gogledd sydd ar y rhestr ydi: - Safle hen orsaf BP Rhosgoch, Ynys Môn
- Hen safle milwrol Morfa yn Nhywyn, Meirionnydd
- Hen safle fferm Greengates ger Parc Busnes Llanelwy
- Dau safle yn Wrecsam - gan gynnwys safle ffatri Firestone.
Mae'r rhestr wedi cael ei chyflwyno gan arweinwyr chwe sir y gogledd gyda chefnogaeth lawn Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru. 'Siomedig iawn' Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Dr Hywel Francis: "Ar hyn o bryd dyw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddim yn mynd i'r afael â'r diffyg cyfleusterau yn y gogledd. "Dyw carcharorion y gogledd ddim mewn carchar yn y gogledd ac mae angen 800 o lefydd. "Roedd cyhoeddi y byddai carchar yng Nghaernarfon yn codi disgwyliadau ac roedd y penderfyniad i beidio bwrw ymlaen yn siomedig iawn." Dywedodd fod casgliadau'r pwyllgor yn 2007 yn berthnasol o hyd a bod "diffyg penderfyniad " gan Lywodraeth San Steffan yn destun pryder. 'Hwb economaidd' "Fe fyddai cyfleusterau newydd yn hwb economaidd i gymunedau ac yn helpu teuluoedd, ffrindiau a swyddogion prawf sydd am ymweld â charcharorion." Ym mis Chwefror eleni cyhoeddodd chwe chyngor y gogledd eu bod yn ymgyrchu o blaid carchar mwy o faint fyddai'n gwasanaethu'r ardal a rhannau o ogledd-orllewin Lloegr. Dywedodd y chwe chyngor, Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, eu bod wedi llunio rhestr fer o safleoedd posib. Fe fyddai'r carchar newydd yn dal 1,500 o garcharorion.
|