British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Hydref 2010, 09:58 GMT 10:58 UK
Diwrnod arbennig: 'Cyfle i fentro'

Neges i'r disgyblion gan Huw Edwards

Dydd Iau, Mawrth 24, yw Diwrnod Bwletin Ysgol y BBC.

Mae hyn yn gyfle i ddisgyblion ysgolion uwchradd fentro i faes newyddiaduraeth wrth sgrifennu bwletinau newyddion ar gyfer y teledu, radio neu'r we.

Ac mae gohebwyr y gorfforaeth wedi bod yn eu helpu i baratoi, llunio a darlledu eu heitemau.

Ar Fawrth 24 fe fydd ysgolion yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn darlledu eu bwletinau.

Fe fydd y rhain ar wefannau a theledu'r BBC yn ogystal â chael eu darlledu ar wefannau'r ysgolion ar y diwrnod.

Mae cyflwynydd Newyddion Deg y BBC, Huw Edwards, wedi cynnig help i'r disgyblion. Beth yw Bwletin Ysgol y BBC?

Eisoes mae disgblion wedi bod yn defnyddio adnoddau wedi eu paratoi gan y BBC cyn llunio eitemau ar gyfer y diwrnod.

Bydd ffrwyth cynnyrch y disgyblion ar y wefan.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific