British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2010, 13:51 GMT
Cau wardiau mewn ysbyty

Ysbyty Treforys
Fe gafodd pum ward eu cau yn Ysbyty Treforys

Mae pump o wardiau yn Ysbyty Treforys, Abertawe, wedi rhoi'r gorau i dderbyn cleifion oherwydd Norofeirws.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod timau iechyd yn ceisio rheoli'r feirws.

Yn ôl Delyth Davies o'r bwrdd iechyd: "Mae'r feirws yn golygu y dylai'r cyhoedd ein helpu ni a chadw draw os ydyn nhw wedi bod yn chwydu neu'n diodde o ddolur rhydd."

Mae'r feirws, sy'n lledu oherwydd cysylltiad â pherson neu wrthrych wedi ei heintio, yn effeithio ar hyd at filiwn o bobl y flwyddyn yn y pedair gwlad.

Golchi'r dwylo yw'r ffordd bwysicaf oll i atal lledu'r feirws.

Mae'r feirws, er mor annymunol yw, fel arfer yn mynd heibio mewn hyd at 48 o oriau.

Dylai unrhywun sy'n poeni ffonio meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.



HEFYD
Salwch yn effeithio ar ddau ysbyty
31 Rhag 09 |  Newyddion
Unedau brys: Cymorth cleifion
04 Tach 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific