Mae 'na rybudd y gallai cynghorau Cymru golli hyd at 30% o'u holl swyddi dros y blynyddoedd nesa os bydd arian yn brin.
Roedd BBC Cymru wedi cysylltu â'r cynghorau sir ac mae'n amlwg y bydd miloedd o swyddi'n cael eu colli - er mai ar delerau gwirfoddol y bydd hynny'n digwydd mewn llawer o achosion.
Dywedodd arbenigwr cyllid cynghorau y gallai rhwng 15 a 30% o swyddi ddiflannu.
Yn y cyfamser, mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud mai hwn oedd y "cyfnod ariannol mwya anodd" ers hanner canrif.
Mae Lynn Hine o gyfrifwyr PriceWaterhouseCoopers wedi dweud: "Ar gyfartaledd mae awdurdod lleol yn gwario 80% o'u cyllideb ar weithwyr ...
"Os yw'r gyllideb rwng 25 a 30% yn llai, y sefyllfa waetha yw rhwng 15 a 30% o swyddi'n diflannu."
Ym mis Ionawr roedd arolwg y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn awgrymu y gallai hyd at 4,000 o swyddi gael eu colli o fewn awdurdodau lleol Cymru dros y blynyddoedd nesaf.
Fe wnaeth eu prif weithredwr, Steve Thomas, gadarnhau y gallai rhwng 2,000 i 4,000 o swyddi cyngor gael eu colli yng Nghymru.
750 o swyddi
"Fe fydd rhai o'r swyddi yn cael eu colli dros gyfnod o dair i bedair blynedd," meddai ar y pryd.
"Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi yn barod y bydd 750 o swyddi yn cael eu colli dros gyfnod o dair blynedd.
"Ac mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi cyhoeddi colli 300 o swyddi."
Ond yng Nghaerdydd mae 118 o swyddi'n wag ac ni fyddan nhw'n cael eu llenwi.
Fe fydd y gweddill yn ddiswyddiadau gwirfoddol.
Cyllideb Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2010-2011 yw £15.7 biliwn, £400 miliwn yn llai na'r disgwyl.
Dywedodd llefarydd cyllid Cymdeithas y Llywodraeth Leol, Rodney Berman, ac arweinydd Cyngor Caerdydd, mai'r ateb gorau fyddai "arbedion effeithlonrwydd nad oedd yn golygu torri gwasanaethau".
Yn y cyfamser, dywedodd Dominic Macaskill, Pennaeth Sector Cyhoeddus undeb Unsain, ei fod yn ofni y byddai cynghorau yn cyfeirio at doriadau wrth anelu at rewi cyflogau.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.