Gwawr Edwards ac Only Men Aloud! yn un o gyngherddau Eisteddfod 2009
Ar Ddydd Gŵyl Dewi fe aeth tocynnau cyngherddau Eisteddfod 2010 ar werth. Fe fydd 'na "rywbeth i bawb" yn ystod yr wythnos ym Mlaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn ystod y Brifwyl, yn ôl y trefnwyr. Ymhlith yr artistiaid eleni y mae rhai o'r Cymry sy'n adnabyddus ar lwyfannau'r West End, cantorion opera a chorau. Fe fydd gan y cyhoedd gyfle hefyd i ddewis y gerddoriaeth ar gyfer un o'r cyngherddau. Dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, bod 'na nifer fawr o enwau adnabyddus byd adloniant yn y digwyddiadau. 'Argoeli'n dda' "Rwy'n gobeithio y bydd yr arlwy sydd gennym yn apelio at ein hymwelwyr rheolaidd ac at y rhai sy'n byw yn nalgylch yr Eisteddfod eleni. "Bydd digon o ganu, dawnsio a pherfformiadau heb eu hail ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr wythnos, ac mae'n gyfle ardderchog i weld rhai o sêr blaenaf ein gwlad y tu allan i Lundain neu Gaerdydd.
 |
CYNGHERDDAU EISTEDDFOD 2010
Nos Wener Gorffennaf 30: Only Men Aloud! - dathlu pen-blwydd y côr yn 10 oed
Nos Sadwrn Gorffennaf 31: Gala'r Ifanc - cyfle i fwynhau doniau pobl ifanc yr ardal
Nos Sul Awst 1 : Y Gymanfa Ganu
Nos Lun Awst 2: Cymry'r West End - noson yng nghwmni rai o Gymry enwog sioeau'r West End
Nos Fawrth Awst 3: Côr yr Eisteddfod yn perfformio Offeren Requiem Mozart yng nghwmni Jason Howard, Wynne Evans, Leah Marian Jones a Iona Jones
Nos Fercher Awst 4: Noson o Gystadlu
Nos Iau Awst 5: Clasur o Noson - Alwyn Humphreys, Corws y BBC a Cherddorfa Siambr Cymru yn perfformio hoff ddarnau o gerddoriaeth y cyhoedd
Nos Wener Awst 6: Noson o Gystadlu
Nos Sadwrn Awst 7: Cyngerdd Cloi yng nghwmni Rhydian Roberts, Catrin Finch, Gwawr Edwards a Chordydd
|
"Rydym eisoes wedi derbyn nifer o ymholiadau am docynnau ar gyfer y nosweithiau....felly mae'n argoeli'n dda ar hyn o bryd." Nos Wener Gorffennaf 30 y bydd y seremoni a'r cyngerdd agoriadol wrth i gôr Only Men Aloud! ddathlu eu pen-blwydd yn 10 oed. Enw adnabyddus yn y West End fydd yn cynhyrchu'r noson, Ken Caswell. Fe fydd sêr sioeau'r West End yn perfformio nos Lun. Ymhlith yr artistiaid y bydd Aled Jones, John Owen Jones, Mark Evans, Tara Bethan a merch o Flaenau Gwent, Katy Treharne. Pobl ifanc dalgylch yr Eisteddfod fydd yn llenwi'r llwyfan ar y nos Sadwrn cyn i rai o gantorion clasurol Cymru rannu llwyfan gyda Chôr yr Eisteddfod ar y nos Fawrth i berfformio'r Requiem gan Mozart. Mae 'na dros 230 o aelodau yn y côr sy'n dod o ardal Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd a thu hwnt o dan arweiniad Alun Guy. Bydd Alwyn Humphreys yn arwain y Gymanfa Ganu ar y nos Sul cyn y bydd yn gyfrifol am noson arbennig ar y nos Iau. Caiff y cyhoedd gyfle i ddewis eu hoff ddarnau o gerddoriaeth ac fe fydd y darnau mwya poblogaidd yn cael eu perfformio yn y cyngerdd nos Iau. Mae'r manylion sut i bleidleisio, cyn Ebrill 30, ar gyfer eich hoff ddarnau i'w cael ar wefan yr Eisteddfod gyda manylion y darnau a'r unawdwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai. Fe fydd dau wnaeth gyd-berfformio yn yr Eisteddfod y llynedd, Rhydian Roberts a Gwawr Edwards, yn perfformio gyda Catrin Finch a Chordydd yn y cyngerdd cloi. Fe fydd y tocynnau ar gyfer y cyngherddau yn mynd ar werth ar Fawrth 1 drwy ffonio'r llinell docynnau ar 0845 122 1176 neu drwy wefan yr Eisteddfod.
|