British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Mawrth 2010, 14:41 GMT
£10,000 i Alun am Gān i Gymru 2010

Alun Evans
Mae Alun yn chwarae'r gitār i'r grŵp offerynnol newydd, Y Niwl

Bws i'r Lleuad yw teitl Cân i Gymru 2010 ac Alun Tan Lan yw'r cyfansoddwr wnaeth ennill y wobr o £10,000.

Tomos Wyn o Landdoged ger Llanrwst oedd perfformiwr y gân yn ystod y noson gafodd ei chynnal yn fyw o Venue Cymru yn Llandudno nos Sul.

Dywedodd Alun Evans (Alun Tan Lan) sydd hefyd o ardal Llanrwst: "Fe wnaeth Tomos ei chanu hi'n wych. Fo wnaeth ei hennill hi i mi".

Ychwanegodd y byddai'n gwario'r arian ar "dalu fy nyledion ac ar waith ar albwm newydd".

Mae Alun yn chwarae'r gitâr i'r grŵp offerynnol newydd, Y Niwl.

'Hyder'

Dywedodd Tomos: "Dwi'n mwynhau canu ac o'r canlyniad mae'n ymddangos bod eraill wedi mwynhau'r gân hefyd.

"Mae hyn yn hwb fawr i mi ac yn rhoi hyder i mi".

Y gân Deffra a gyfansoddwyd gan Gai Toms ddaeth yn ail a chael gwobr o £2,000 gyda'r gân Gorwel a gyfansoddwyd gan Jaci Williams ac Aron Elias yn drydydd dderbyniodd £1,500.

Y band Estynedig wnaeth berfformio Deffra gyda Jaci ac Aron yn perfformio eu cân nhw.

Roedd yr wyth yn cystadlu'n fyw ar S4C gyda'r cyflwynwyr Sarra Elgan a Rhodri Owen wrth y llyw.

Daeth hanner y pleidleisiau o'r panel beirniaid yn Venue Cymru gyda gweddill y pleidleisiau yn cael eu bwrw gan y gwylwyr gartref.

Y caneuon eraill wnaeth gyraedd y rownd derfynol oedd:

Gwên ar fy Wyneb wedi ei chyfansoddi gan Megan Rhys Williams o Hermon ger Crymych. Perfformiwyd y gân ar y noson gan Beth Williams.

Pob Siawns, wedi ei chyfansoddi ar y cyd gan Lowri Evans o Drefdraeth a'r gitarydd a pheiriannydd stiwdio, Lee Mason. Lowri a berfformiodd y gân ar y noson.

Aros yn yr un lle a gyfansoddwyd gan aelod band Yr Ods, sef Osian Howells. Yr Ods wnaeth berfformio cân Osian ar y noson.

Ti a ddaeth o dramor yw'r gân a gyfansoddwyd ar y cyd gan Matthew Wall o Bwllheli a Deio Jones o Garndolbenmaen.

Glyndŵr, wedi ei chyfansoddi gan Simon Gardner, Andrew Moore a Tudur Morgan. Perfformiwyd y gân ar y noson gan Martin Beattie.

Owen Powell, cyn-gitarydd y band Catatonia, oedd cadeirydd y panel beirniaid ac roedd nifer o wynebau cyfarwydd eraill ar y panel, Aloma Jones, o'r ddeuawd boblogaidd Toni ac Aloma; y cyfansoddwr a chanwr Endaf Emlyn; y cynhyrchydd Dyl Mei y gantores a chyflwynydd cyfres gerddoriaeth S4C, Nodyn, Elin Fflur ac enillydd Cân i Gymru 2009, Elfed Morgan Morris.

Bydd y gân fuddugol yn cynyrchioli Cymru yn yr Wyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific